‘Rhaid mynd i'r afael â’r tangyllido systematig, tymor hir cronig er mwyn osgoi colli swyddi’

LLGCNLW_(1).jpg

Mae Elin Jones AS a Ben Lake AS wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ynglŷn ag argyfwng ariannol y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol, sydd wedi'i lleoli yn Aberystwyth, wrthi'n ymgynghori â gweithwyr ynghylch toriadau posibl mewn swyddi o hyd at dri deg aelod o staff, o ganlyniad i 'dangyllido systematig' gan Lywodraeth Cymru.

Yr wythnos diwethaf, lansiwyd ddeiseb ar-lein yn galw Lywodraeth Cymru i roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac fe gafwyd dros 10,000 o lofnodion mewn ychydig o ddyddiau.

Yn eu datganiad ar y cyd, dywedodd Elin Jones a Ben Lake:

“Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi dioddef yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i dangyllido systematig, tymor hir ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys. Amlygwyd maint y tangyllido yn yr Adolygiad Teilwredig annibynnol o'r Llyfrgell Genedlaethol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd yn hydref 2020.

“Ar y pryd fe wnaethon ni alw ar Dafydd Ellis Thomas, y Dirprwy Weinidog, i fynd i’r afael â’r diffyg cyllido hwn yng nghyllideb eleni. Nawr bod y gyllideb honno wedi'i chyhoeddi, gwelwn nad yw'n fwriad gan Lywodraeth Cymru Llafur-Dem Rhydd i gynyddu cyllid y Llyfrgell Genedlaethol.

“Sgil effaith hyn yw colli 30 o swyddi cwbl allweddol yn y Llyfrgell. Mae gweithlu’r Llyfrgell eisoes wedi cael ei dorri yn ôl i'r asgwrn a byddai colli rhagor o swyddi yn fygythiad clir i’r gwaith hanfodol y mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn ei wneud yn ddyddiol ar ran y genedl.

“Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw ein hanes cenedlaethol yn fyw ac yn hygyrch i'r byd ac ni ddylid peryglu'r gwaith hwnnw. Fel cynrychiolwyr lleol, ynghyd â Phlaid Cymru, byddwn yn codi'r argyfwng cyllido hwn eto gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Weinidog, fel y gellir mynd i'r afael ag ef cyn cyhoeddi'r gyllideb derfynol.

“Mae colli 30 o swydd yn ergyd drom i ardal Aberystwyth, ond mae gweld y gefnogaeth genedlaethol i'r ddeiseb a gyflwynwyd i gefnogi'r Llyfrgell wedi croesi'r trothwy 10,000 mewn cyfnod byr iawn o amser yn dangos gwerth y sefydliad i'r genedl gyfan. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol ein cefnogaeth lawn a byddwn yn brwydro i'r eithaf i sicrhau ei dyfodol.”

 

1.png

 


Dangos 1 ymateb

  • Matthew Jones
    published this page in Newyddion 2021-02-01 12:49:09 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.