Ar 18 Ebrill, gofynodd Ben Lake AS ei gwestiwn cyntaf yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog (PMQs) gan godi mater pwysig i Geredigion sef dyfodol y bad achub yng Nghei Newydd.
Yn ystod ei gyfraniad, fe wnaeth Mr Lake ganmol ymdrechion arwrol staff a gwirfoddolwyr yr RNLI yng ngorsaf bad achub Ceinewydd sydd wedi bod yn diogelu bywydau’r bobl hynny sy’n mentro allan i’r bae, boed hynny am resymau hamdden neu gwaith, am 150 o flynyddoedd. Nododd hefyd y pryderon sydd wedi codi yn sgil y penderfyniad na fydd bad achub pob-tywydd ar gael yng Ngheredigion o 2020 ymlaen.
Gofynnodd Mr Lake i’r Prif Weinidog a fyddai hi’n cytuno “bod gwaith amhrisiadwy yr RNLI yn gweithredu fel y pedwerydd gwasanaeth brys, ac o ganlyniad mae’r hanfodol bod arfordir Ceredigion, fel pob arfordir poblog arall, yn medru cael mynediad at y gwasanaeth beth bynnag fo’r tywydd?”
Ymatebodd y Prif Weinidog gan ddweud:
“Caiff gwasanaethau chwilio ac achub yn y môr eu darparu gan nifer o sefydliadau yn cynnwys gwylwyr y glannau a’r RNLI. Mae gan yr RNLI draddodiad balch, a dylen ni fod yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am yr hyn mae nhw wedi’i gyflawni ar hyd y blynyddoedd. Mae’r RNLI yn elsuen annibynnol a nhw sy’n penderfynu sut i ddyrannu ei adnoddau, ond rydym yn cefnogi gwaith elusennau bad achub annibynnol drwy’r ‘Rescue Boat Grant Fund’, sydd wedi dyrannu dros £3.5 miliwn ers 2014 i gynyddu capasiti ac sy’n caniatau i elusennau brynu cychod ac offer newydd.”
Dywedodd Ben Lake:
“Roeddwn yn falch o’r cyfle i godi mater gyda’r Prif Weinidog sy’n pery pryder mawr i gymunedau ar draws Ceredigion. Edrychaf ymlaen at gydweithio gyda’r RNLI a chynrychiolwyr o’r ymgyrch lleol er mwyn dod o hyd i ddatrysiad tymor hir, ac yn benodol i weld sut y gallai’r 'Rescue Boat Grant Fund' gael ei ddefnyddio i sicrhau parhad bad achub pob-tywydd yng Nghei Newydd.”