I gofnodi Dydd Gŵyl Dewi, fe wnaeth Ben Lake, AS Ceredigion, fynychu digwyddiad yn San Steffan ar ran Leonard Cheshire Cymru, elusen sy’n cefnogi pobl anabl ar draws Cymru i fyw, dysgu a gweithio more annibynnol â phosib.
Mae 2018 yn nodi penblwydd yr elusen yn 70 mlwydd oed, ac mae’n darparu gofal cymdeithasol ar draws Cymru, yn ogystal â chynnal prosiectau a rhaglenni arloesol megis ‘Can Do’ i helpu adeiladu sgiliau a hyder pobl ifanc anabl fydd yn eu cefnogi nhw ar hyd eu taith tuag at annibyniaeth. Yn ddiweddar hefyd, mae’r elusen wedi lansio ymgyrch ‘Untappted Talent’ i waredu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl wrth chwilio am gyflogaeth.
Dywedodd Ben Lake:
"Roedd hi’n bleser cael cyfarfod Leonard Cheshire Cymru, sy’n gwneud Gwaith more arbennig yn cefnogi pobl yng Nghymru, ac i drafod materion sy’n wynebu pobl ag anableddau.”
Ychwanegodd Glyn Meredith, Cyfarwyddwr Leonard Cheshire Cymru:
“Rydym yn gwybod bod cefnogaeth o’r safon uchaf yn medru trawsnewid bywydau pobl ag anableddau. Mae elusen Leonard Cheshire wedi ymrwymo i gefnogi siwrne pobl tuag at fwy o annibyniaeth.
"Roedd yn gyfle arbennig i arddangos ein prosiectau, Can Do a Discover IT, sy’n cael effaith bositif ar gannoedd o bobl ifanc sydd ag anabledd ar draws Cymru ac edrychaf ymlaen at gydweithio â Ben yn y dyfodol ar y materion hynny sy’n bwysig i bobl anabl.”