Wythnos diwethaf lansiwyd adroddiad gan NFU Cymru yn amlinellu eu prif ofynion ar ddyfodol polisi amaeth yng Nghymru.
Mewn digwyddiad yn y Senedd cyflwynodd NFU Cymru adroddiad ‘Siapio Dyfodol Ffermio yng Nghymru’ sy’n amlinellu blaenoriaethau sy’n hanfodol i sicrhau bod ffermydd Cymru yn parhau i ffynnu ac i ddarparu bwyd o safon uchel, sy’n fforddiadwy ac yn dod a buddion conomaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol i bobl Cymru hefyd, a hyn oll tra’n cyrraedd y nod o sicrhau amaethyddiaeth sero net erbyn 2040.
Dywedodd Elin Jones AS: ‘Roedd yn braf cael croesawu NFU Cymru i’r Senedd, i gael mwynhau cynnyrch Cymraeg, ac i dderbyn yr adroddiad. Mae’r adroddiad yn gosod sylfaen gref ar gyfer gwaith y Senedd ar amaethyddiaeth, er mwyn i ni allu diogelu ein cynhyrchwyr bwyd ni, sydd hefyd yn gofalu am ein hamgylchedd a’n tirwedd.’
Dangos 1 ymateb