Cefndir Kerry
- Perchennog busnes gyda chefndir mewn marchnata a chyfathrebu
- Aelod o fwrdd Menter Aberystwyth sy'n trefnu digwyddiadau yn y dref
- Tiwtor gydag Adran Dysgu Gydol Oes Aberystwyth
- Llywydd presennol Clwb Rotari Ardal Aberystwyth
- Cynghorydd Tref yn Aberystwyth
- Mentor gyda Busnes Cymru
Pam pleidleisio dros Kerry?
"Helo! Fy enw i yw Kerry Ferguson, ac rwy’n rhoi fy enw ymlaen fel ymgeisydd Cyngor Sir ar gyfer ward Ystwyth. Byddai’n fraint imi petaech yn rhoi eich ffydd ynof, a’m hethol yn gynrychiolydd dros y ward.
Cefais fy magu ar fferm yng ngogledd Cymru ac felly rwy’n deall pwysau a phryderon cymunedau gwledig yn ogystal â medru gwerthfawrogi harddwch cefn gwlad. Fel perchennog busnes, gyda chefndir mewn marchnata a chyfathrebu, gwn fod gwrando ar bobl a dod o hyd i atebion yn gwbl allweddol. Rwyf am weld cyfathrebu gwell, mwy agored a thryloyw rhwng Cynghorwyr a’u trigolion, ac rwyf eisoes yn weithgar iawn ar Facebook a Twitter i’r perwyl hwnnw.
Mae gennyf brofiad ar draws ystod o sectorau – gan gynnwys rhedeg fy nghwmni fy hun yn Aberystwyth am y 9 mlynedd diwethaf, aelod o fwrdd Menter Aberystwyth yn trefnu digwyddiadau yn y dref, tiwtor gydag Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth, Llywydd presennol Clwb Rotari Ardal Aberystwyth, Cynghorydd Tref dros Aberystwyth a mentor gyda Busnes Cymru. Mae cymuned a chymdeithas wrth wraidd popeth a wnaf, a byddaf bob amser yma i wrando arnoch ac i gynnig cymorth a chyngor.
Yr hyn sy'n rhoi'r egni i mi bob dydd yw gwneud fy ngorau i wneud gwahaniaeth, ac rwyf bob amser yn cael fy ysgogi i wneud mwy. Rwy'n mawr obeithio y gallaf ddibynnu ar eich ymddiriedolaeth i'ch cynrychioli fel eich Cynghorydd Sir. Rwy'n addo bod yn dryloyw bob amser, cyfathrebu'n rheolaidd a gwrando ar leisiau pawb yn y gymuned."
Blaenoriaethau Kerry
- Annog newid
- Rwyf am annog newid dros y 5 mlynedd nesaf, er mwyn creu cyngor sir sy'n gweithio i chi. Rwyf am weld cyngor sy’n rhagweithiol, ac sy’n gwrando ac yn cyfathrebu â’i drigolion.
- Yr economi leol
- Parhau i weithio i wella a datblygu cyfleoedd i fusnesau lleol helpu i gryfhau'r economi leol.
- Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r Senedd i wella ardrethi busnes, a chyda San Steffan i wella cysylltedd digidol.
- Amgylchedd
- Parhau i weithio gyda Chyngor Sir Ceredigion i ddod o hyd i ffyrdd gwell o fynd i'r afael â sbwriel.
- Gweithio gyda'r gymuned i ddathlu a gwella'r amgylchedd lleol.
- Iechyd a Lles
- Gweithio tuag at hyrwyddo pwysigrwydd iechyd meddwl a lles mewn ardaloedd gwledig.
- Cymorth tuag at gynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau a chefnogaeth.
- Cyfathrebu
- Cynyddu cyfathrebiadau oddi wrth y Cyngor Sir a Chynghorwyr â chi, yn enwedig mewn perthynas â pholisïau a phenderfyniadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar y ward a'r ardaloedd cyfagos.
- Plant a Phobl Ifanc
- Dathlu manteision ysgolion gwledig, a gweithio tuag at gynyddu’r cyfleoedd i blant a phobl ifanc mewn ardaloedd gwledig.
- Annog cyfleoedd cynyddol i bobl ifanc aros yng nghefn gwlad Ceredigion.
Manylion cyswllt: |
[email protected] |
07792 196758 |
Dangos 1 ymateb