Cefndir
Yn ei amser sbâr, mae Keith yn mwynhau beicio a cherdded o amgylch y filltir sgwâr. Mae e yn ymwneud â’r mudiadau yma:
- Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Aberaeron
- Hyfforddwr a Thrysorydd Adran Iau Clwb Rygbi Aberaeron
- Trysorydd menter lwyddiannus yn Nyffryn Aeron i brynu'r tafarn y Vale
- Cyn-actor ar raglen Bontlwyd, Radio Ceredigion
Pam pleidleisio dros Keith?
"Dwi'n sefyll ar ran Plaid Cymru yn ward Llansanffraid er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Yn wreiddiol o bentre’ Cribyn, dwi’n byw gyda’r teulu ym mhentref Nebo ers 2003. Dwi’n credu’n gryf yn yr ethos o gael byw yn yr ardaloedd gwledig o’n dewis. Fe hoffen weld ein cymunedau’n siapio eu dyfodol eu hunain, a hoffwn weithio gyda chi i wireddu syniadau newydd fydd yn gwella’r ardal a’r gymdeithas leol.
Ar ôl gweithio yn y sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector, dwi’n credu bod gen i’r profiad i wneud gwahaniaeth i chi, yr etholwyr yn y plwyf. Yn gyn-rheolwr banc gyda changen leol NatWest; cyn-bennaeth gwasanaethau masnachol Coleg Ceredigion. Erbyn hyn dwi’n ceisio gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau gwledig yn fy swydd fel Hwylusydd Tai Gwledig. Mae’r profiad o gydweithio gyda’r sector cyhoeddus, yn fy rôl fel Cadeirydd Cynnal y Cardi ac Cadeirydd Fforwm Llywodraethwyr Ceredigion, wedi rhoi profiadau amhrisiadwy i mi."
Blaenoriaethau Keith
- Sicrhau cyfleoedd i fusnesau lleol ddatblygu a thyfu
- Cefnogi ein mudiadau lleol i ailgynnau bwrlwm bro
- Gwella gwasanaethau casglu sbwriel ac ailgylchu’r ardal
- Datblygu prosiectau lleol yn ein pentrefi sy’n gwella golwg y strydoedd ac yn cryfhau’r deimlad o berthyn
- Cryfhau’r cyswllt rhwng pentrefi Llan-non, Llansanffraid, Pennant, Nebo, Penuwch a Bethania
- Gwasgu ar adrannau’r priffyrdd i wella safon ein ffyrdd cefn
- Darparu cefnogaeth i’n pobol ifanc gael aros yng nghefn gwlad
- Helpu cymunedau ar hyd y sir i ddatblygu pwyntiau gwefru ceir trydan
- Cydweithio gyda chynghorwyr eraill i wasgu ar Lywodraeth Cymru i wella system gynllunio'r ardal, ynghyd â gwella ein Cynllun Datblygu Lleol
- Helpu i gynnal cymunedau cymdogol sy’n llefydd saff i fyw
Manylion cyswllt |
[email protected] |
01974 272059 / 07970386975 |
www.twitter.com/maescledan |
www.facebook.com/keithplaidllansantffraed |
Dangos 1 ymateb