Llywodraeth y DU wedi’i chyhuddo o ‘lusgo traed’ ar drwyddedu sgïo jet

bas-van-den-eijkhof-w_O7qjB9ZVY-unsplash.jpg

Rhybuddia ASau Plaid Cymru bydd methu â chynhyrchu deddfwriaeth cyn tymor yr haf yn arwain at fwy o farwolaethau ac anafiadau.

Heddiw (24 Gorffennaf) mae ASau Plaid Cymru, Ben Lake a Hywel Williams, wedi beirniadu Llywodraeth y DU am barhau i “lusgo eu traed” trwy fethu â chyflwyno deddfwriaeth ar drwyddedu sgïo jet mewn pryd ar gyfer tymor twristiaeth yr haf.

Roedd Hywel Williams, AS Plaid Cymru dros Arfon wedi cyflwyno Bil Aelod Preifat yn San Steffan ym mis Tachwedd 2020 a fyddai wedi sefydlu system drwyddedu ar gyfer gyrwyr cychod dŵr personol ac wedi creu’r drosedd o yrru jet sgïo heb drwydded.

Cyflwynwyd y Bil mewn ymateb i bryderon cynyddol am y defnydd peryglus ac anghyfrifol o gychod dŵr personol neu sgïau jet ar hyd arfordir Ceredigion a Gwynedd, a'r diffyg pŵer gorfodi sydd ar gael i awdurdodau lleol i blismona'r sefyllfa. Nid yw'r broblem yn unigryw i Gymru, gyda llawer o gymunedau arfordirol ledled y DU yn adrodd am ddigwyddiadau tebyg.

Sicrhaodd Plaid Cymru gyfarfod gyda’r Is-ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Robert Courts AS i drafod cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer deddfwriaeth ar drwyddedu sgïau jet a derbyniwyd sicrwydd bod cynlluniau ar y gweill. Fodd bynnag, datgelodd cwestiwn seneddol ysgrifenedig a gyflwynwyd ar 1 Gorffennaf nad oedd unrhyw amserlen wedi'i phennu ar gyfer gwireddu deddfwriaeth o'r fath.

Anogodd ASau Plaid Cymru Lywodraeth y DU i weithredu i roi diwedd ar y “rhyddid” sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i unrhyw un ddefnyddio cerbydau dŵr personol heb drwydded

Wrth ysgrifennu at Mr Courts, dywedodd Hywel Williams AS:

“Wrth ddadlau dros y ddeddfwriaeth, manylais ar yr enghreifftiau niferus o sgïau jet yn cael eu gyrru ar gyflymder yn agos at draethau ymdrochi, gwrthdrawiadau damweiniol gyda chychod a damweiniau agos, aflonyddu ar bobl yn pysgota o'r lan, a digwyddiadau lle gwelwyd gyrwyr sgïau jet yn amharu ar warchodfeydd natur. Rwy'n pryderu ei bod yn ymddangos fel nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud yn ystod y misoedd sydd wedi dilyn.

“Dros y misoedd niferus yma, mae pobl wedi ysgrifennu ataf gydag enghreifftiau pellach o’r defnydd peryglus ac anghyfrifol llwyr o sgïau jet. Mae llawer yn mynegi syndod nad oes angen prawf a thrwydded i ddefnyddio'r peiriannau pwerus hyn.

“Yn ystod yr haf diwethaf, gwelsom farwolaethau yn gysylltiedig â sgïau jet ar lannau Gwynedd a gwelwyd marwolaethau ac anafiadau mewn rhannau eraill o’r DU. Rydyn ni nawr yn dechrau tymor haf arall ac rwy’n ofni y bydd y diffyg rheoleiddio yn arwain at ddigwyddiadau tebyg yr haf hwn. ”

Ychwanegodd Ben Lake AS:

“Mae’n hynod siomedig bod Llywodraeth y DU wedi parhau i lusgo eu traed ac wedi methu â deddfu mewn pryd ar gyfer tymor yr haf. Nid mater o anghyfleustra bach yw hwn ond mater o ddiogelwch y cyhoedd.

“Oherwydd diffyg gweithredu’r llywodraeth yma, bydd unrhyw un - hyd yn oed plant mor ifanc â 12 oed - yn parhau i allu defnyddio’r peiriannau pwerus hyn trwy gydol yr haf, gan fygwth niwed difrifol i nofwyr, morwyr, syrffwyr, yn ogystal â bygwth y bywyd gwyllt sy’n cael ei fwynhau gennym ar hyd ein harfordir.

“Rhaid i’r llywodraeth weithredu ar frys i roi diwedd ar rhyddid yma a chyflwyno deddfwriaeth gadarn i amddiffyn y cyhoedd a bywyd gwyllt.”


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-07-27 11:10:40 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.