Cefndir
- Mynychodd Ysgol Ciliau Parc, Ysgol Gyfun Aberaeron a graddiodd mewn pensaernïaeth o Brifysgol Greenwich yn Llundain.
- Rheolwr ar Swyddfa Pensaernïaeth yn Aberystwyth ac wedi gweithio ar brosiectau megis Y Llyfrgell Genedlaethol a’r Harbwrfeistr.
- Cadeirydd presennol ac yn aelod o Gyngor Cymuned Ciliau Aeron ers dros 14 mlynedd.
- Cadeirydd Menter Tafarn Y Dyffryn (cwmni er budd cymunedol).
- Arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc Felinfach a Chadeirydd Cwmni Cydweithredol Troed-Y-Rhiw.
- Aelod o Gapel Neuaddlwyd.
- Yn canu gyda chôr Bois Y Gilfach a gyda band lleol, Argyfwng Canol Oed.
- Eisteddfodwr brwd a’n mynychu Ysgol Farddol Caerfyrddin.
Pam bleidleisio dros Iwan?
"Hoffwn gyflwyno’n hunan i chi. Rwy’n mab i’r filltir sgwâr yma, a heblaw am gyfnod fel myfyriwr yn Llundain rwyf wedi byw yn ardal Dyffryn Aeron erioed. Rwy’n briod gyda Janice ac yn dad i dri o fois sy’n byw gartre gyda ni yma yng Nghiliau Aeron ac yn gweithio‘n lleol i gyd.
Rwy’n gredwr mawr mewn gweithredu’n lleol ac mewn gwneud y pethau bychain a phetai bobl y Ward yma’n ymddiried ynof ac yn fy ethol fel eich Cynghorydd Sir fy ngobaith byddai y medrwn i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, ar lefel y gymdeithas ac i fywydau unigolion.
Gan obeithio y caf eich cefnogaeth."
Blaenoriaethau Iwan
"Pe byddwn yn cael fy ethol un o’m blaenoriaethau fyddai cefnogi cyfleoedd ar gyfer bobol ifanc leol; dyma ddyfodol ein cymunedau ac mae angen sicrhau bod cyfleoedd gwaith, byw a chymdeithasu ar gael ar eu cyfer yma’n lleol. Yn ogystal â hynny fe fyddwn yn sefyll lan i sicrhau nad yw’r bobol a’r ardaloedd hynny sydd yn teimlo eu bod nhw ar ymylon cymdeithas yn cael eu gadael ar ôl.
Fel Cynghorydd Cymuned roeddwn yn falch o arwain prosiect lle sicrhawyd grantiau ar gyfer codi pompren a gwella llwybrau ar dir comin y Rhos, Cilcennin a sicrhau offer chwarae ar gyfer Neuadd Ciliau Aeron.
Yn fwy diweddar rwy’n falch iawn o wedi bod yn gysylltiedig â chriw o bobol leol sydd wedi bwrw ati i greu Menter er Budd Cymunedol sydd wedi llwyddo i godi dros £380k mewn cyfranddaliadau er mwyn prynu tafarn Y Vale."
Manylion cyswllt |
[email protected] |
07931 715700 |
www.twitter.com/iwantyglyn |
Dangos 1 ymateb