Llongyfarchiadau gwresog i Shelley Childs am gael ei ddewis fel ymgeisydd Plaid Cymru yn is-etholiad ward Aberystwyth Penparcau. Bydd yr is-etholiad yn cael ei gynnal ar yr ddydd Iau, yr 16eg o Dachwedd.
Mae Shelley wedi byw a gweithio ym Mhenparcau ers blynyddoedd maith ac mae’n adnabyddus yn ei filltir sgwâr. Yn yr un modd, mae’n adnabod ei ardal i'r dim ac yn ymwybodol o’r heriau mae trigolion Penparcau yn eu hwynebu.
Does dim dwywaith bod Shelley yn unigolyn brwdfrydig a gweithgar. Mae'n arweinydd naturiol ond sydd hefyd yn gweithio’n dda mewn tîm. Mae ganddo brofiad o gydlynu a threfnu pob math o ddigwyddiadau ac yn wir, Shelley yw prif drefnydd y digwyddiad AberCycleFest. Mae Shelley yn wirfoddolwr gyda thîm digwyddiadau Clwb Athletau Aberystwyth ac yn ogystal â bod yn gyn-gadeirydd ar Glwb Beicio Ystwyth, mae e erbyn hyn yn ysgrifennydd iddynt.
Mae gan ward etholiadol Aberystwyth Penparcau ddau Gynghorydd Sir ac mae Shelley yn awyddus iawn i ymuno â Carl Worral i gynrychioli’r ardal a sicrhau cynrychiolaeth gadarn er lles y gymuned a’i phobl. Mae Shelley yn teimlo’n gryf bod angen lleihau amseroedd aros i denantiaid sydd angen atgyweiriadau brys i'w cartrefi er mwyn gwella profiadau pobl o rhentu. Mae e hefyd yn ymwybodol o’r galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl ac felly mae’n awyddus i gefnogi prosiectau lleol er mwyn galluogi pawb i gael mynediad at gymorth pan fo angen.
Dywedd Ben Lake AS:
“Mae Shelley yn aelod gwerthfawr iawn o ward Penparcau ac mae’n addas iawn i'ch cynrychioli fel eich Cynghorydd Sir. Mae Shelley eisoes yn gwirfoddoli a chefnogi nifer o gynlluniau lleol ac mae’n awyddus I fynd â hyn gam ymhellach. Dwi’n gwybod y bydd e’n rhoi yr un egni ac ymroddiad wrth eich gwasanaethu chi ar y Cyngor Sir, petai’n cael ei ethol”
Pob lwc mawr i Shelley. Os hoffech chi wirfoddoli a helpu Shelley i ennill yr is-etholiad, cysylltwch â [email protected].
Dangos 1 ymateb