Trafodaeth ar gyllideb San Steffan 'mor bell o realiti' – Ben Lake AS
Cyn Cyllideb y Gwanwyn (dydd Mercher, 6 Mawrth), mae Ben Lake AS, Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys wedi rhybuddio’r Canghellor na ddylai “wneud toriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus” er mwyn cyhoeddi “toriadau treth er budd etholiadol tymor byr”.
Dywedodd bod y drafodaeth yn San Steffan cyn y gyllideb wedi bod “mor bell o realiti”, gan nodi bod y GIG ar “ochr y dibyn”, cynghorau yn “wynebu methdaliad”, system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n “chwalu” a thai yn “anfforddiadwy”.
Dywedodd Mr Lake, y dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi mewn seilwaith cymdeithasol ac economaidd.
Mae Plaid Cymru yn galw am:
1. Cyllid i lenwi’r twll du sy’n wynebu cynghorau
2. Treth Ffawdelw ar sectorau elw uchel
3. Diwedd ar y premiwm gwledig gyda chefnogaeth ar gyfer ynni, tanwydd a chysylltedd digidol
4. Buddsoddiad mewn ynni gwyrdd
5. Rhwyd ddiogelwch gref i bawb
Wrth siarad cyn datganiad y Canghellor, dywedodd Ben Lake AS:
“Mae’n bwysig bod y Canghellor yn wynebu'r anawsterau ariannol difrifol sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghyllideb y Gwanwyn.
"Mae'r sefyllfa yn ddifrifol: mae cyllidebau llywodraeth leol wedi dioddef dros ddegawd o bwysau, ac mae llawer wedi cael eu gorfodi i dorri gwasanaethau er mwyn canolbwyntio'n llwyr ar ddarparu gwasanaethau statudol. Yn groes i awgrymiadau gan y Canghellor, ychydig iawn sydd ar ôl i’w docio o wasanaethau lleol. Mae'r GIG ar ochr y dibyn, mae llawer o gynghorau yn wynebu methdaliad, mae ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn chwalu, ac mae prynu cartref wedi dod yn freuddwyd anfforddiadwy i ormod.
"Mae llawer o'r drafodaeth yn San Steffan cyn y Gyllideb hon mor bell o’r realiti sy'n wynebu cymaint o bobl ledled Cymru. Yn anffodus, mae'r ffocws ar doriadau treth posibl yn awgrymu bod y Llywodraeth yn poeni mwy am ei ffawd etholiadol yn hytrach na delio â'r materion sy'n bwysig i aelwydydd.
"Ni ddylai'r Canghellor orfodi toriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus a fydd yn achosi poen hir dymor ar gymunedau er mwyn gallu cyhoeddi toriad treth er budd etholiadol tymor byr. Yn hytrach, dylai gydnabod yr angen am fwy o fuddsoddiad yn ein seilwaith cymdeithasol ac economaidd a'r cyfle i'w hariannu drwy ddiwygiad mwy sylfaenol i’r system dreth.
"Er nad yw'n teimlo felly, y DU yw'r chweched economi fwyaf yn y byd o hyd, ac nid oes prinder cyfoeth yn yr economi: corfforaethau mawr fel British Gas yn cyhoeddi cynnydd o 10 gwaith elw ar gyfer 2023. Yr hyn sydd ei angen arnom yw llywodraeth sy'n cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi llesiant dinasyddion a'r economi fel ei gilydd, a system dreth sy'n dosbarthu'r baich o ariannu'r buddsoddiad hwn yn deg."
Dangos 1 ymateb