‘Mae Plaid Cymru yn gefnogol i deuluoedd sy’n dioddef; mae’n bryd i Lywodraeth y DU ddangos ei bod hi yn poeni hefyd’ – Ben Lake AS
Heddiw (dydd Sul 19 Tachwedd) cyn Datganiad yr Hydref, anogodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, y Canghellor i ddefnyddio’r cyfle i fynd i’r afael â’r ‘argyfwng anghydraddoldeb’ drwy ‘dorri’n llym’ ar ‘drachwant corfforaethol’
Defnyddiodd AS Ceredigion y manwerthwyr tanwydd mawr fel esiampl, gan eu cyhuddo o fethu a throsglwyddo’u harbedion cyfanwerthu i’w cwsmeriaid. Galwodd ar y Canghellor i “rhoi pwysau ar y manwerthwyr tanwydd mwyaf i ostwng eu prisiau pan fydd costau cyfanwerthu yn gostwng.”
Datgelodd ymchwiliad y Competition and Markets Authority nad oedd rhai o’r archfarchnadoedd mawr sy’n gwerthu tanwydd wedi trosglwyddo’r gostyngiad mewn costau cyfanwerthu'r llynedd, gan godi 6c y litr yn fwy am danwydd ar yrwyr. Daeth hyn yn gyfanswm o £900 miliwn o gostau ychwanegol am 2022 yn unig.
Adnewyddodd Mr Lake hefyd alwad ei barti ar ymestyn y Rural Fuel Duty Relief Scheme i Gymru. Mae’r cynllun cyfredol yn cynnwys 17 ardal yn Lloegr a’r Alban, yn cynnwys rhannau o’r Ucheldir, Aryll a Bute, Northumberland, Cumbria, Dyfnaint a Gogledd Swydd Efrog, ond dim un yng Nghymru. Mae’r cynllun yn galluogi manwerthwyr i hawlio rhyddhad toll ar betrol di-blwm a disel, a throsglwyddo’r arbedion i’w cwsmeriaid.
Ymhlith galwadau Plaid Cymru ar gyfer Datganiad yr Hydref hefyd mae dod â’r ‘gwahaniaethau daearyddol mawr mewn tâl sefydlog biliau tanwydd” i ben. Nododd Mr Lake bod trigolion yng ngogledd Cymru, er enghraifft, yn talu £80 yn fwy yn flynyddol o dâl sefydlog na thrigolion Llundain
Galwodd hefyd ar Lywodraeth y DU am arian cyfatebol o £40 miliwn ar gyfer y cynllun ‘Cymorth i Aros’ a gyflwynwyd gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru i helpu pobl i gwrdd â’u taliadau morgais.
Dywedodd Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys:
"Mae'r 'argyfwng costau byw' wedi dod yn rhan annatod o fewn bwletinau newyddion dyddiol a sylwebaeth wleidyddol fel nad yw bellach yn ysgogi gweithredu na'r ymdeimlad o frys dylai ei dderbyn. Mae'n argyfwng anghydraddoldeb sy'n cael ei waethygu gan ddiffyg arweinyddiaeth y llywodraeth. Y Datganiad yr Hydref yma yw’r cyfle olaf cyn yr Etholiad Cyffredinol i Lywodraeth y DU ddangos ei bod o ddifrif ynglŷn â chefnogi teuluoedd sy'n gweithio'n galed y gaeaf yma drwy sicrhau eu bod yn cael bargen deg gan gorfforaethau mawr.
Ar hyn o bryd mae’r archfarchnadoedd mawr sy’n gwerthu tanwydd yn mwynhau’r maint elw mwyaf erioed drwy godi tâl gormodol wrth y pwmp er gwaethaf y gostyngiad mewn pris cyfanwerthu tanwydd. Rhaid i’r Canghellor ymateb er mwyn sicrhau tryloywder pendant yn y ffordd mae prisiau’r pwmp yn cael eu gosod fel bod cartrefi’n cael y fargen orau, a sicrhau bod y cwmnïoedd tanwydd mwyaf yn gostwng eu prisiau pan fydd cost cyfanwerthu yn gostwng. Yn ychwanegol, byddai ymestyn y Rural Fuel Duty Relief Scheme sy’n rhoi gostyngiad o 5c mewn ardaloedd o Loegr a’r Alban i Gymru o gymorth i bobl mewn ardaloedd gwledig sydd, gwaetha’r modd, yn dibynnu ar eu ceir oherwydd gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wael.
“Dylai’r Datganiad hefyd fynd i’r afael â’r gwahaniaethau daearyddol mawr mewn tâl sefydlog ar filiau tanwydd. Mae trigolion yng ngogledd Cymru, er enghraifft, yn talu £80 yn fwy yn flynyddol o dâl sefydlog na thrigolion Llundain. Mae angen i’r Trysorlys weithredu ar frys ar y gwahaniaethau amlwg yma, sy’n tanlinellu ymhellach ar yr angen am system brisio tanwydd tecach, yn cynnwys datblygu Toll Cymdeithasol.
“Mae costau tai yn ofid mawr. Mae’r farchnad morgeisi wedi bod yn anwadal ers Cyllideb fer ddryslyd y Ceidwadwyr – does dim diogelwch i berchnogion na rhentwyr. Mae Plaid Cymru yn falch o fod wedi cyflwyno’r cynllun ‘Cymorth i Aros’ drwy’r Cytundeb gyda Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi cymorth i liniaru dinistr y Gyllideb fer. Mae nawr yn bryd i Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid cyfatebol i’r £40 miliwn hynny, gan ddod a chyfanswm y cyllid i £80m. Mae codi’r Lwfans Tai hefyd yn hollbwysig i helpu rhentwyr incwm isel.
“Gyda’i gilydd, byddai’r ymyriadau yma yn mynd gam o’r ffordd i liniaru’r argyfwng sy’n gwneud bywyd yn anodd i gymaint o bobl Cymru. Mae Plaid Cymru yn cefnogi teuluoedd sy’n dioddef; mae’n bryd i Lywodraeth y DU ddangos ei bod yn poeni hefyd.”
Dangos 1 ymateb