Mae canllawiau newydd, a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf gan Lywodraeth y DU ac awdurdodau iechyd cyhoeddus, yn nodi y dylai unrhyw glinigwr sy’n gweithio o fewn dau fetr i glaf a amheuir neu sy wedi’i gadarnhau â Covid-19 mewn ysbyty, gofal sylfaenol neu leoliad gofal cymunedol wisgo ffedog, menig, mwgwd llawfeddygol ac offer diogelu’r llygaid. Cytunwyd ar y canllawiau gan y pedwar Prif Swyddog Meddygol, Prif Swyddog Nyrsio a Phrif Swyddog Deintyddol yn y DU ac maent yn berthnasol ym mhob rhan o'r DU.
Mae cyflogwyr ac undebau wedi croesawu’r canllawiau newydd yn fras ond wedi rhybuddio bod yn rhaid ategu’r canllawiau gan gyflenwadau digonol.
Dywedodd Elin Jones AC: “Yr hyn sy’n sylfaenol bwysig yw bod meddygon a gweithwyr gofal iechyd y rheng flaen yn cael cyflenwadau digonol a phriodol o offer amddiffynnol personol (PPE). Heb y cyflenwadau hyn, mae perygl annerbyniol parhaus i iechyd a bywydau gweithwyr gofal iechyd a'u cleifion. ”
Ochr yn ochr â chyflenwadau digonol o PPE, mae Elin Jones AC a Ben Lake AS yn galw am fwy o brofi ac olrhain ar gyfer gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal fel mater o frys, er mwyn sicrhau eu bod nhw a’r cyhoedd yn cael eu hamddiffyn.
Dywedodd AS Ben Lake: “Profi yw un o’r arfau gorau sydd gennym i drechu’r pandemig hwn trwy ymlediad y firws ac i sicrhau bod gweithwyr iechyd a gofal y rheng flaen yn cael eu hamddiffyn ac yn gallu mynd yn ôl i’r gwaith.”
Mae Cyfarwyddwyr Gwasanaeth Cymdeithasol ar draws Awdurdodau Lleol Cymru wedi dweud wrth Bennaeth Gwasanaeth Iechyd Cymru bod diffyg offer diogelwch personol yn y sector gofal yn waeth oherwydd y diffyg profi.
Mewn llythyr a welwyd gan Blaid Cymry, maent yn disgrifio gofidion y sector gan ddweud y bydd ‘diffyg offer diogelwch personol yn golygu y bydd gweithwyr yn y sector gofal, sydd eisoes dan straen, yn gallu lledu’r haint yn eithriadol o gyflym fydd yn arwain at bwysau pellach ar ein hysbytai’. Maent hefyd yn galw am dryloywder o ran y cyflenwad o offer diogelwch personol gan nodi bod ‘y sefyllfa bresennol lle nad oes syniad gennym pryd a faint o stoc fydd ar gael i ni yn annerbyniol.’
Mewn ymateb, dywedodd Elin Jones AC: “Rhaid i ni beidio anghofio am staff yn y sector gofal sy’n gweithio’n ddiflino er mwyn rhoi gofal i gannoedd o drigolion ar draws Ceredigion sydd mewn categori risg uchel o ran Covid-19, a hynny mewn amgylchiadau heriol sy’n newid yn gyglym ac rydyn yn canmol eu hymroddiad parhaus.
“Mae’n rhaid blaenoriaethu profi ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd a’n cartrefi gofal. Bydd hyn yn ei dro yn lleihau’r defnydd o offer diogelwch personol ar gyfer achosion nad ydyn wedi’u cadarnhau. Mae tipyn o offer diogelwch personol yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn ddiangenrhaid oherwydd y diffyg profi.”
Ychwanegodd Ben Lake AS: Mae staff yn y sector gofal yn cyflawni gwaith hanfodol bwysig yn y cyfnod hwn, fel nifer o weithwyr eraill yn y sector gofal ac iechyd. Maent yn cadw ein henoed, plant a phobl ifanc yn ddiogel tra’n darparu gofal a chefnogaeth i eraill, a hoffem ddiolch iddynt am eu gwaith.”
“Mae angen i ni sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn ddigon iach i allu gweithio, sy’n golygu bod angen iddyn nhw gael yr offer diogelwch personol angenrheidiol. Rydym hefyd yn galw am fwy o brofi cyn gynted â phosib er mwyn cynnwys staff gofal cymdeithasol fel bod y bobl hynny sy’n ddigon iach i wneud eu gwaith yn gallu gwneud hynny.”
Ychwanegodd Elin Jones AC: "Ry'n ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r sefydliadau a'r cwmniau lleol hynny, yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Canolfan Wyddoniaeth Filfeddygol Cymru a nifer o ysgolion uwchradd lleol, sydd ar hyn o bryd wrthi'n cynhyrchu ac yn rhoddi offer diogelwch personol i staff y Gwasanaeth Iechyd mewn safleoedd gofal iechyd lleol."