AS Ceredigion yn cefnogi Action for Children i wella iechyd meddwl a lles emosiynol pobl ifanc

Ben_Lake_MP_screenshot_(02-02-21).PNG

Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant (1-7 Chwefror), ymunodd Ben Lake â phobl ifanc ac arbenigwyr iechyd meddwl o brif elusen plant y DU, Action for Children.  Digwyddiad ar-lein oedd hwn i drafod y gwasanaethau sy'n cefnogi plant ledled y DU. 

Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar blant o bob oed.  Mae ffigurau diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd yn destun pryder ac yn dangos bod un o bob chwe phlentyn wedi cael anhwylder iechyd meddwl tebygol yn 2020 - cynnydd o bron i hanner mewn tair blynedd, gyda’r pandemig Covid-19 yn debygol o gael effeithiau niweidiol pellach ar iechyd meddwl. 

Mae Action for Children yn darparu ystod o ymyriadau i gefnogi a hyrwyddo iechyd meddwl a lles emosiynol da. Mae rhaglenni fel Bouncing Back a’r Blues Programme yn arfogi pobl ifanc â'r sgiliau a'r offer sydd eu hangen arnynt i reoli eu lles emosiynol a lleihau'r risg o achosion iechyd meddwl dwysach, tra bod Parent Talk yn cynnig cefnogaeth ar-lein am ddim i rieni.  

Mae bron i dri chwarter y disgyblion (72%) sy'n cwblhau’r Blues Programme wedi gwella eu hiechyd meddwl a'u lles emosiynol, ac mae 87% o’r rhai sy'n cwblhau Bouncing Back yn gwybod pryd i ofyn am help. 

Wrth fynychu'r digwyddiad, clywodd AS Ceredigion gan bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglenni hyn ac addawodd gefnogi ymdrechion Action for Children i sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt. 

Dywedodd AS Ben Lake: 

“Mae’r nifer cynyddol o blant a phobl ifanc sy’n wynebu heriau iechyd meddwl yn bryder gwirioneddol i ni i gyd, ac mae’r angen i fynd i’r afael â’r sefyllfa fel mater o flaenoriaeth. 

“Rydyn ni'n gwybod y gall ymyrraeth gynnar wneud byd o wahaniaeth, ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r bobl ifanc hynny sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl. 

“Mae elusennau fel Action for Children yn gweithio’n galed i helpu i fynd i’r afael â’r heriau iechyd meddwl y mae ein plant yn eu hwynebu, ac rwy’n croesawu eu hymdrechion i ddarparu cefnogaeth hanfodol ar adeg mor dyngedfennol.”

Dywedodd Melanie Armstrong, Prif Weithredwr Gweithredu dros Blant: 

“Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd pobl ifanc yn dweud wrthym eu bod yn poeni am eu hiechyd meddwl. Nawr, gyda’r cyfnodau clo ac ansicrwydd am y dyfodol, rydyn ni'n gwybod bod y problemau hyn yn gwaethygu. 

“Mae ein gwasanaethau yn dweud wrthym fod pobl ifanc yn cael trafferth gartref heb eu rhwydweithiau cymorth arferol, yn gorfod ymdopi â phwysau dysgu o bell, unigrwydd ac ofnau am iechyd eu teulu – yn ogystal â phrysurdeb y cyfryngau cymdeithasol a phenawdau digalon. 

“Mae cael cefnogaeth gan ASau fel Ben yn golygu ein bod yn gallu arfogi mwy o’n pobl ifanc â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli eu hiechyd meddwl a'u lles emosiynol, gan gamu i'r adwy yn gynnar i helpu atal problemau iechyd meddwl a chefnogi'r rhai sydd angen ein help i gael adferiad.” 


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-02-10 11:07:17 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.