ASau i edrych ar effaith polisi masnach ac amgylcheddol ar ffermydd teuluol yng Nghymru

priscilla-du-preez-tGtWKDdicn4-unsplash.jpg

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad byr heddiw sy’n bwriadu edrych ar sut gallai newidiadau sylweddol mewn polisi effeithio ar ffermydd teuluol yng Nghymru.

Mae’r newidiadau polisi sy’n cael eu hystyried yn cynnwysond nid ydynt yn gyfyngedig ibolisi Llywodraeth y DU ar fasnach ryngwladol a chytundebau masnach rydd, a deddfwriaeth yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Bydd y Pwyllgor yn archwilio i sut mae’r meysydd polisi hyn yn debygol o effeithio ar gysylltiadau cymdeithasol a thraddodiadau mewn cymunedau ffermio ac yn edrych ar beth a ellir ei wneud i gefnogi cymunedau, eu diwylliant a’u treftadaeth.

Fel rhan o’r ymchwiliad byr hwn, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ‘ffermydd teuluol’ (ffermydd bach a chanolig eu maint, er enghraifft, ffermwyr mynydd) yn hytrach na ffermydd mawrion o faint diwydiannol.

Dywedodd y Gwir Anrh Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:

“Mae cytundebau masnach ryngwladol ac agenda uchelgeisiol parhaus o ran yr amgylchedd wedi dominyddu rhan helaeth o bolisi Llywodraeth y DU dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn deall yr effaith maent yn eu cael ar bobl a chymunedau cyffredin sydd ond yn ceisio ennill bywoliaeth. Rhaid sicrhau bod pawb yn buddio o’r datblygiadau hyn mewn polisi, ac wrth edrych ar yr effaith ar ffermydd teuluol, rydym yn gobeithio taflu goleuni ar sut all gymunedau ffynnu am genedlaethau a sut y gellir diogelu eu bywoliaeth."

Dywedodd Ben Lake AS, Aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig:

“Rwy’n gwybod bod gan deuluoedd yng Ngheredigion bryderon difrifol am effaith rhai penderfyniadau polisi a wneir yn San Steffan a Chaerdydd, a’r hyn y gallent ei olygu ar gyfer dyfodol ardaloedd gwledig. Rwy’n falch eu bod yn cael cyfle, drwy’r ymchwiliad hwn, i leisio eu barn a rhannu unrhyw bryderon a allai fod ganddynt ynglŷn â goblygiadau strategaeth fasnach y DU ar ddyfodol ffermio Cymru."


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-07-27 12:20:07 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.