Croesawu argymhellion Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddiogelu a datblygu gwasanaethau yng Ngheredigion
Mae Elin Jones a Ben Lake wedi croesawu argymhellion Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gyfer Ceredigion, fel rhan o’i ymgynghoriad Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol.
Mae pob un o’r tri opsiwn sy’n cael eu hystyried gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn argymell cadw Bronglais fel Ysbyty Cyffredinol cwbl weithredol, gydag adran damweiniau ac achosion brys 24 awr, adran llawfeyddgol, adran feddyginiaeth cyffredinol, adran trawma ac orthopedig, a gwasanaethau obstetreg, gynecoleg, pediatrig, anesthetig a diagnostig.
Mae’r cynlluniau hefyd yn dangos y bwriad i weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth a phartneriaid prifysgol eraill er mwyn datblygu cyfleoedd i ddatblygu gweithlu gwledig, pwrpasol ar gyfer Ysbyty Bronglais a’i chymunedau.
Mae’r ddogfen ymgynghori hefyd yn datgelu cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau iechyd cymunedol ar draws y rhanbarth, yn cynnwys yn Aberaeron, Tergaron, Aberteifi ac Aberystwyth.
Dywedodd Elin Jones:
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gorfod profi’r achos droeon i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda o blaid diogelu gwasanaethau Bronglais.
“Roedd adroddiad Longley yn cydnabod hyn, ac roedd yn cadarnhau lleoliad strategol Bronglais a’r angen i sicrhau mynediad cydradd i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Nid oes gennyf unrhyw amheuon fod ymgyrch y gymuned i amddiffyn Bronglais wedi bod yn allweddol wrth berswadio swyddogion yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd fod Bronglais yn linc hanfodol yn y rhwydwaith o ysbytai yng Ngymru.
“Mae adolygiad strategol cyfredol y Bwrdd Iechyd yn atgyfnerthu’r agen i gynnal a datblygu gwasanaethau ym Mronglais, ac mae’n mynd ymhellach wrth ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau iechyd mewn lleoliadau ar draws Ceredigion, gyda chanolfannau iechyd yn Nhregaron, Aberteifi ac Aberaeron yn ogystal â chanolfan iechyd cymunedol yn Aberystwyth fyddai’n helpu lleihau’r pwysau sydd ar Bronglais.
“Rwyf hefyd yn falch iawn o weld ymrwymiad tuag at gydweithio’n agos gyda Chanolfan Iechyd Gwledig Phrifysgol Aberystwyth gyda’r bwriad o ddatblygu cyfleoedd i hyfforddi staff yn lleol.
“Mae’r cynlluniau hyn yn dangos ymdrech wirioneddol i fynd i’r afael â materion iechyd tymor hir yng Ngheredigion ond serch hynny rwy’n awyddus i drafod sut bydd unrhyw argymhellion i newid ysbytyai yn ne’r rhanbarth yn effeithio ar wasanaethau i bobl yn ardal Dyffryn Teifi. Mae lleoliad unrhyw ysbyty newydd yn ystyriaeth hanfodol bwysig i’r cymunedau hynny.
Dywedodd Ben Lake:
“Mae’n galonogol bod pob un o’r tri opsiwn sy’n cael ei argymell gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn sicrhau bod Bronglais yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i drigolion yng Ngheredigion.
“Rwy’n gwerthfawrogi’r amser a’r ymdrech sylweddol sydd wedi cael ei fuddsoddi yn y prosiect hwn gan staff y bwrdd iechyd ac rydym yn gwybod eu bod wedi gweithio’n gale di drio cynhyrchu gweledigaeth addas a phriodol ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau yn y tymor hir.
“Mae’n hanfodol nawr bod pobl lleol yn cael dweud eu dweud ac yn cymryd rhan yn y broses ymgynghori 12-wythnos hon, er mwyn sicrhau bod holl gynlluniau gofal iechyd ar gyfer y dyfodol yn cael eu teilwra i ddiwallu anghenion Ceredigion. Mae angen i ni ddangos pa mor bwysig a gwerthfawr yw ysbytai a gwasanaethau iechyd i’n cymunedau gwledig.”
Sut alla i gymryd rhan?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal dau ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus yng Ngheredigion.
Bydd rhain yn ddigwyddiadau anffurfiol a bydd cyfle i alw heibio unrhyw adeg rhwng 2pm a 7pm i ddarganfod mwy o wybodaeth, rhannu barn a chynnig syniadau.
- 2pm - 7pm, 4 Mai, Neuadd y Dref, Aberteifi
- 2pm - 7pm, 18 Mai, Canolfan y Morlan, Aberystwyth
Am ragor o wybodaeth ewch i www.bihyweldda.wales.nhs.uk/TrawsnewiddHdd