Mae Ben Lake AS yn awyddus i benodi rhywun i weithio'n rhan-amser am gyfnod o 12 mis yn ei swyddfa yn Llanbedr Pont Steffan.
Teitl y swydd: Swyddog Cefnogi’r Etholaeth
Lleoliad: Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Ystod cyflog: £21,529 - £31,705 (pro rata) - bydd y person â apwyntir yn cychwyn ar waelod yr ystod cyflog
Cytundeb: 12 mis
Oriau gwaith: 22.5 awr yr wythnos
Mae’r cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:
- Ymdrin ag ymholiadau gan aelodau’r cyhoedd (wyneb-i-wyneb, dros y ffôn ac ar ebost);
- Drafftio llythyrau, gohebiaeth ac ymatebion i etholwyr ac awdurdodau perthnasol;
- Gwneud gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth fydd yn helpu datrys achosion;
- Dadansoddi patrymau ymholiadadu a chynhyrchu adroddiadau;
- Cadw cofnod manwl o bob darn o waith achos gan fonitro cynydd a sicrhau bod unrhyw bwyntiau gweithredu yn cael eu cyflawni yn brydlon;
- Cofnodi data a gwybodaeth gyfrinachol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
Sgiliau sydd eu hangen:
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun, yn aelod o dîm ac yn rhagweithiol;
- Sgiliau TG, yn enwedig rhaglenni Microsoft Office;
- Sgiliau cyfathrebu da yn llafar ac yn ysgrifenedig;
- Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn gywir yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol;
- Y gallu i drafod, eirioli a dehongli sefyllfaoedd amrywiol ar ran etholwyr;
- Y gallu i wrando ar etholwyr, ac yna asesu a dadansoddi’r achos dan sylw;
- Y gallu i ddeall a dehongli gwybodaeth gyfreithiol a gweithdrefnol;
- Profiad o weithio o dan bwysau ac i derfynau amser tynn;
- Profiad o fod yn effeithiol wrth reoli amser;
- Trwydded yrru a mynediad i gerbyd.
Dylid anfon CV a llythyr cais erbyn 12pm, 16 Chwefror at [email protected] neu
Swyddfa Ben Lake AS
Bryndulais
67 Heol y Bont
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 7AB
I drafod ymhellach, cysylltwch â Carys Lloyd ar 01570 940333 neu [email protected]
Dangos 1 ymateb