Mae Aelod Seneddol Ceredigion, sydd newydd ei ailethol, wedi ymweld â phencadlys Hybu Cig Cymru (HCC) yn Llanbadarn, i dderbyn sesiwn friffio ar ystod o faterion yn ymwneud â chynnyrch bwyd a ffermio.
Gofynnodd Ben Lake i HCC am ei strategaeth ar gyfer marchnata cynnyrch amaethyddol Cymru dros y flwyddyn i ddod. Gyda chynaliadwyedd yn codi’n uwch fyth ar yr agenda, clywodd yr AS am ymgyrch bwysig y corff fydd yn hyrwyddo cymwysterau amgylcheddol cadarnhaol Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.
Fe wnaeth y drafodaeth hefyd droi at gytundebau masnach posib y gallai'r DU geisio eu taro gyda'r Undeb Ewropeaidd a thrydedd wledydd, yn ogystal â'r Bil Amaeth sydd newydd ei gyflwyno. Mae'r Bil yn delio'n uniongyrchol â dyfodol taliadau amaethyddol yn Lloegr, ond mae hefyd yn berthnasol i Gymru o ran sefydlu'r fframweithiau fydd yn sicrhau tegwch rhwng pedair gwlad y DU yn y dyfodol.
Mae'r Bil hefyd yn mynd i'r afael â'r annhegwch hirsefydlog yn nosbarthiad yr Ardoll Cig Coch, newid sydd wedi cael ei gefnogi ers amser maith gan Lywodraeth Cymru a HCC. Telir y swm hwn, sy’n mynd tuag at farchnata ac ymchwil, gan ffermwyr a phroseswyr ar yr holl ddefaid, gwartheg a moch, ond caiff oddeutu miliwn o bunnoedd ei golli dros y ffin bob blwyddyn oherwydd bod anifeiliaid sy'n cael eu magu yng Nghymru yn cael eu prosesu yn Lloegr.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae cyflwyno Bil Amaethyddiaeth y DU yn ddechrau ar gyfnod eithriadol o bwysig i’r diwydiant amaeth. Yn ystod y trafodaethau ar y Bil yn San Steffan, mae’n hanfodol ein bod yn dod i gytundeb ar ddull newydd o ymdrin â fframweithiau ledled y DU - er mwyn sicrhau tegwch i holl wledydd Prydain, o ran ariannu a llywodraethiant.
“Roedd cael y cyfle i gwrdd â HCC yn eithriadol o fuddiol er mwyn dod i ddeall pryderon y diwydiant yn well, ac hefyd i drafod trefniadau masnachu yn y dyfodol a phwysigrwydd cynnal chwarae teg o ran safonau mewnforion amaethyddol. Mae hyn oll yn bwysig er mwyn sicrhau na fydd ffermwyr Cymru ar eu colled mewn unrhyw gytundebau masnach.”
Dywedodd Gwyn Howells, Prif Weithredwr HCC:
“Roedd yn ddefnyddiol iawn cael y cyfle i drafod ystod o faterion gyda’n AS lleol, mor fuan ar ôl dechrau’r sesiwn seneddol newydd a chyflwyniad y Bil Amaeth newydd.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld y Bil hwn yn mynd i’r afael ag annhegwch hanesyddol yr ardoll yn cael ei golli dros y ffin, ac at gymryd rhan yn y trafodaethau ynghylch trefniadau masnachu’r dyfodol a fydd yn cael eu gwylio’n agos gan ffermwyr a chwmnïau prosesu bwyd Cymru yn ystod 2020.”