Ben Lake AS yn llofnodi Llyfr Ymrwymiad yr Holocost

Banner_Holocaust.png

Arwyddodd Ben Lake AS Llyfr Ymrwymiad yr Holocaust Educational Trust yr wythnos hon. Wrth wneud hyn roedd yn ymrwymo i Ddiwrnod Cofio’r Holocost ac yn anrhydeddu’r rhai a lofruddwyd yn ystod yr Holocost yn ogystal â thalu teyrnged i’r rhai a oroesodd ac sydd wedi gweithio’n ddiflino i addysgu pobl ifanc heddiw.

Eleni rydym yn nodi 75 mlynedd ers rhyddau gwersylloedd crynhoi Ewrop ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y mis, ar ddydd pen-blwydd rhyddhau Auschwitz-Birkenau, bydd pobl ar draws y byd yn cofio.
Fel rhan o’r digwyddiadau hyd at Diwrnod Cofio’r Holocost ac yn dilyn hynny, bydd miloedd a ddigwyddiadau yn cael eu trefnu gan ysgolion, mudiadau ffydd a chymdeithasau cymunedol ar draws y wlad, i gofio dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau a ddilynodd. Thema'r digwyddiadau coffa eleni yw ‘Sefyll gyda’n Gilydd’.

Ar ôl llofnodi'r Llyfr Ymrwymiad dywedodd Ben Lake AS:

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn gyfle arbennig i bobl Ceredigion ystyried amser tywyll iawn yn hanes Ewrop. Fel mae’r Holocost yn symud o fod yn hanes byw, i hanes, mae’n fwyfwy pwysig ein bod yn cymryd amser i gofio’r chwe miliwn o ddioddefwyr Iddewig ac i dalu teyrnged i’r rhai a oroesodd.”

Dywedodd Karen Pollock MBE, Prif Weithredwr yr Holocaust Education Trust:

“Fel y gwelwn yr Holocost yn mynd ymhellach i hanes, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau nad yw eu storiâu na storiâu’r 6 miliwn o ddynion, gwragedd a phlant a gafodd eu llofruddio’n greulon gan y Natsïaid yn mynd yn angof.” Mae dyletswydd ar bob un ohonom i gofio’r Holocost ac i sefyll yn erbyn gwrth-semitiaeth a chasineb, nawr yn fwy nag erioed. ”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.