Cwestiynau’r Prif Weinidog: Rhaid i Lywodraeth y DU wella amodau gwaith gyrwyr cerbydau nwyddau trwm – Ben Lake AS

nigel-tadyanehondo-GOD2mDNujuU-unsplash.jpg

Prif Weinidog wedi 'datgysylltu o'r byd go iawn' medd cyn gyrrwr cerbyd nwyddau trwm 

Yn ystod sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw, dywedodd AS Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake, wrth Boris Johnson fod "ateb hirdymor" i argyfwng y gadwyn gyflenwi yn gofyn am "well amodau gwaith" a "mesurau i leihau amseroedd aros mewn canolfannau dosbarthu". 

Cyfeiriodd Mr Lake at 'Arolwg cenedlaethol am barcio lorïau' a gynhaliwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn 2018, a nododd fod angen mwy na 1,411 o lefydd parcio ar unwaith ledled Lloegr, er mwyn galluogi gyrwyr i gymryd eu seibiannau gorffwys sydd wedi'u mandadu'n gyfreithiol heb bryderon am ddiogelwch pobl ac eiddo. 

Mae amseroedd aros hefyd yn cyfrannu at amodau gwaith gwael gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Dangosodd Arolwg Cludwyr Ôl Brexit 2021 mai’r effaith fwyaf a nodwyd gan ymatebwyr (81%) oedd amseroedd aros hwy ar y ffin,  a mwy o amser yn mynd ar weinyddu (69%).   

Yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Ben Lake: 

"Gyda phryder cyffredinol am yr argyfwng gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, mae nifer o yrwyr o Geredigion wedi cysylltu â mi sy'n credu na fydd penderfyniad y llywodraeth i gynyddu oriau gyrwyr yn datrys y broblem. 

"Maen nhw'n bendant mai’r ateb hirdymor yw gwell amodau gwaith, gan weithredu ar adroddiad Llywodraeth 2018 ar lefydd parcio a chyfleusterau gyrwyr, a hefyd mesurau i leihau amseroedd aros mewn canolfannau dosbarthu. 

"A wnaiff y Prif Weinidog ystyried y mesurau hyn a faint o amser fydd angen cyn i’r Llywodraeth yn datrys y broblem?   

Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog fod gyrru cerbyd nwyddau trwm yn "broffesiwn gwych sy'n talu'n dda" a bod y Llywodraeth yn "cynyddu capasiti profion galwedigaethol ac yn ariannu prentisiaethau ". 

Fodd bynnag, fe wnaeth Luke Vernon, cyn gyrrwr cerbyd nwyddau trwm o Geredigion wrthod awgrym y Prif Weinidog bod y proffesiwn yn "wych gyda thâl da", a dywedodd fod Mr Johnson wedi'i "ddatgysylltu o'r byd go iawn". Ychwanegodd bod yn rhaid gwella amodau gwaith os yw'r Llywodraeth am ddod o hyd i yrwyr newydd. 

Dywedodd Luke Vernon: 

"Mae awgrym y Prif Weinidog bod "gyrru cerbyd nwyddau trwm yn broffesiwn gwych sy'n talu'n dda" yn dangos nad yw'n gwybod dim am y diwydiant neu ei fod yn claddu ei ben yn y tywod. Pa obaith sydd gennym o newid pethau pan fod ein Prif Weinidog wedi datgysylltu cymaint o'r byd go iawn? 

"Mae llawer o'r prinder am fod nifer o’r swyddi'n ddim yn 'talu'n dda' o gwbl, ac mae llawer mwy ymhell o fod yn 'wych'. 

"Mae angen hyfforddiant i ddechrau denu pobl ifanc i'r proffesiwn, wrth gwrs, ond ni fydd hyfforddiant yn datrys unrhyw beth nawr.  Y gwir amdani yw, mae gennym ddegau o filoedd o yrwyr nad ydynt bellach yn gyrru fel bywoliaeth am nad yw'n swydd wych nac yn talu'n dda. Arian, amodau gwaith, agwedd. Y tri pheth sydd wrth wraidd y mater hwn." 

 


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-09-28 12:08:42 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.