Ar 7 Ebrill, bu i Ben Lake ymgymryd â'i ail her gerdded y flwyddyn hon. Fe ymunodd Ben â chriw mawr o aelodau C.Ff.I Ceredigion ar gyfer eu taith gerdded noddedig ar hyd llwybr arfordir y sir, gydag un grŵp yn cychwyn cerdded o Aberteifi a'r grŵp arall yn cychwyn cerdded o Ynyslas gan gwrdd yn y canol yn Aberaeron cyn i'r haul fachlud - cyfanswm o 60 milltir i gyd.
Ymunodd Ben â'r criw yn Aberystwyth gan gerdded cyfanswm o 18 milltir i Aberaeron. Er bod y tywydd a'r amgylchiadau dan draed yn heriol, bu i Ben fwynhau'r diwrnod:
"Roedd yn fraint cael cymryd yn yr her arbennig hon gyda fy nghyd-aelodau yn y mudiad, a hynny gan godi arian at achos da iawn sef Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais. Llongyfarchiadau i bob aelod a gymrodd ran yn yr her a diolch i C.Ff.I. Ceredigion am fynd ati i drefnu digwyddiad o'r fath ac am fynd ati bob blwyddyn i godi symiau sylweddol o arian tuag at elusennau ac achosion da."