Mae nifer fawr o bobl ledled Ceredigion wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed dros y 10 diwrnod diwethaf yn sefydlu grwpiau o wirfoddolwyr lleol i gefnogi pobl bregus a phobl sy'n hunan-ynysu yn ein cymunedau - diolch o galon i chi gyd.
Mae Ben Lake AS a'i dîm yn awyddus i rannu gymaint o wybodaeth â phosib gyda'r bobl bregus hynny sydd yn cysylltu â nhw bob dydd, ac felly maent wrthi yn casglu gwybodaeth / manylion cyswllt y rhwydweithiau hynny o wirfoddolwyr ar draws y sir.
Os ydych chi'n gydlynydd lleol neu os oes gennych chi wybodaeth am y grwpiau lleol, anfonwch ebost at [email protected]
Ry'n ni hefyd yn ddiolchgar iawn i'r holl fusnesau lleol hynny sydd wedi addasu eu gwasanaeth ar fyr rybudd er mwyn gallu cludo bwyd a nwyddau i gartrefi pobl. Mae rhestr o'r rhain ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion:
http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/rhestr-o-adnoddau-yng-ngheredigion/