AS yn pwyso ar y Canghellor i estyn cymorth i fenywod WASPI

Pamela_Judge_Ceredigion_WASPI_with_BenLake_MP.JPG

Mae Ben Lake, AS Ceredigion, wedi ysgrifennu unwaith eto at y Canghellor gan gefnogi cais menywod 1950au i gael mynediad cynnar i’w pensiynau a chredyd pensiwn, a hynny rhag blaen araith sydd wedi ei threfnu gan y canghellor ar yr economi yn gynnar ym mis Gorffennaf.

Mewn ail lythyr i Rishi Sunak mae Mr Lake yn gofyn am gefnogaeth i’r miloedd o fenywod  WASPI Ceredigion (Menywod yn erbyn anghyfiawnder Pensiwn Gwladol), a’r 3.8 miliwn o fenywod 1950au ar draws y DU sydd wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol, nid yn unig gan argyfwng presennol COVID-19, ond hefyd gan y cynnydd yn oed eu Pensiwn Gwladol.

 

Dywedodd Mr Lake “Mae’r feirws corona o’r cychwyn wedi cael dylanwad anghyfartal ar fenywod a anwyd yn y 1950au, sydd eisioes wedi dioddef caledi llym, ac yn awr yn canfod eu hunain mewn safle hyd yn oed yn fwy heriol.”  “Mae nifer o fenwyod 1950au yn gweithio o ran rheidrwydd ariannol yn hytrach nag o ddewis, ac yn aml mewn swyddi maent yn cael trafferth i’w cyflawni.

“Byddai sicrhau bod Pensiwn Gwladol a Chredyd Pensiwn ar gael yn awr i fenywod 1950au yn rhyddhau y swyddi sydd ganddynt ar hyn o bryd, ac yn caniatau i’r genhedlaeth iau a’r diwaith i gael mynediad i’r gweithle yn hytrach na hawlio budd daliadau.  Yn ogystal byddai caniatau i fenywod 1950au i gael mynediad i’w Pensiwn Gwladol yn eu rhyddhau i helpu gyda gofal eu hwyrion gan ganiatau i rieni fynd nôl i’r gwaith.”

Ychwanegodd Pamela Judge o WASPI:

“Rydym yn ddiolchgar i Ben am barhau gyda’n hachos yn y llywodraeth.  Mae’n siomedig na wnaeth y Canghellor ateb ei lythyr ym mis Ebrill.  Does ond gobeithio y bydd yn talu sylw nawr ac yn mabwysiadu mesurau ymarferol i helpu i adfer yr economi.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.