Daw gwelyau i ysybyty newydd Aberteifi os bydd Elin yn weinidog

Mae Elin Jones, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, wedi ymrwymo i ymgorffori gwelyau yn ysbyty Aberteifi os taw hi fydd y gweinidog Iechyd ar ôl y 5ed o Fai.
Mae gwaith adeiladu i fod i ddechrau ar ganolfan iechyd newydd Aberteifi o fewn y flwyddyn nesaf. Tra bod y datblygiad newydd yma’n cynnig ystod eang o gyfleusterau gofal cynradd a chymunedol, ar hyn o bryd y bwriad yw trosglwyddo’r cyfrifoldeb o ddarparu gwelyau ar gyfer cleifion i ddarparwyr allanol.

 ysbyty_aberteifi.jpg

Dywedodd Elin Jones

“Rwyf o hyd wedi bod o’r farn bod angen ysbyty newydd yn Aberteifi, nid canolfan iechyd yn unig.  Mae’n ormod o risg mewn ardal wleidg i roi y cyfrifoldeb o ddarparu gwelyau i ddarparwyr allanol.

“Mae’r cyllid ar gael ar gyfer y datblygiad newydd yma yn Aberteifi a fydd yn gwasanaethu Dyffryn Teifi a’r ardal ehangach . Mae hyn yn gyfle i sicrhau  ein bod yn darparu yr  holl wasanaethau sydd eu hangen ar gyfer heddiw a’r dyfodol.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.