Ben Lake AS yn dal ei dir i sicrhau tegwch i ffermwyr

Ar ddydd Llun 22 Ionawr, galwodd Ben Lake AS am arferion masnachu tecach yn y gadwyn cyflenwi bwyd, yn ystod dadl yn San Steffan ar y ‘Groceries Supply Code of Practice’ (GSCOP). 

Cafodd y ddadl ei galw ar ol i ddeiseb ddod i law yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio’r GSCOP a’i wneud yn ofynnol i fanwerthwyr, yn ddieithriad i “Brynu’r hyn y cytunwyd ei brynu, talu’r hyn y cytunwyd ei dalu ac i dalu ar amser”.

Cyflwynwyd y GSCOP yn 2009 yn dilyn ymchwiliad o’r farchnad gan y Comisiwn Cystadlu. Mae grwpiau ffermio wedi galw am ddiwygio’r GSCOP i sicrhau bod cyflenwadau anuniongyrchol i fanwerthwyr bwyd yn cael eu cynnwys. 

Yn y ddadl ddydd Llun, galwodd Ben Lake AS am gryfhau’r GSCOP i gefnogi ac amddiffyn ffermwyr fel cynhyrchwyr yn y gadwyn fwyd. Pwysleisiodd Mr Lake yr ansicrwydd sy’n wynebu ffermwyr, gan gynnwys rhai yn Ngheredigion, o ganlyniad i gostau uwch, a hynny o achos chwyddiant. Tra bod ffermwyr yn wynebu cyfnod anodd iawn, mae busnesau mawr yn y diwydiant bwyd wedi bod yn trin cyflwenwyr yn annheg gyda’uag arferion marchnata annheg. 

Dywedodd Ben Lake AS fod anghydbwysedd pŵer yn bodoli ar hyn o bryd rhwng cyflenwyr a manwerhwyr. Mae cytundebau a chytundebau llafar yn cael eu newid ar yr eiliad olaf, o ran pris a’r galw am y cynnyrch.  

Dywedodd Ben Lake AS 

“Pam bod y mater hwn o bwys? Y gwir amdani yw bod yr arferion ofnadwy hyn yn rhoi gymaint o straen ar ffermwyr ledled y DU fel bod llawer gormod yn ystyried a oes ganddynt ddyfodol yn y diwydiant. Dydy tua 25% o ffermwyr llaeth ddim yn siwr a fyddan nhw’n dal i fod yn godro ymhen blwyddyn. Mae’r effaith y mae hynny’n ei chael nid yn unig ar ein capasiti i gynhyrchu, ond ar ein diogelwch bwyd yn bryderus tu hwnt. 

“Hoffwn gloi drwy ailadrodd galwad y ddeiseb, ac ymgyrch ffermio Riverford i gryfhau rol dyfarnwr y Cod, fel bod modd cymryd camau effeithiol, ac os bod rhaid, camau cosbol yn erbyn y rhai sy’n cyflawni arferion masnachu annheg yn y gadwyn gyflenwi ac i ymestyn y GSCOP i gyfryngwyr hefyd. Mae’n anodd credu ein bod ni yma’n trafod pwysigrwydd yr egwyddor syml hwn bod manwerthwyr yn rhoi sicrwydd i gyflenwyr y byddant yn prynu’r hyn y cytunwyd ei brynu, yn talu’r hyn y cytunwyd ei dalu ac yn talu ar amser.” 

Cliciwch YMA i wylio araith Ben yn ei chyfanrwydd.


Dangos 1 ymateb

  • Elain Roberts
    published this page in Newyddion 2024-01-25 15:03:05 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.