Ynghanol ei amserlen brysur ymwelodd Ben Lake AS â Chymdeithas Cludiant Preseli Wledig yn ddiweddar, neu Bws y Ddraig Werdd fel y caiff ei adnabod orau yn lleol, sy’n darparu gwasanaethau cludiant cyhoeddus ar gyfer pobl sy’n byw yn ne Ceredigion er mwyn iddynt gael mynediad i wasanaethau ac adnoddau lleol.
Sefydliad nid-er-elw yw Bws y Ddraig Werdd sy’n darparu gwasanaethau o ddrws i ddrws a gwasanaethau rheolaidd i drigolion ar draws de orllewin Cymru. Eu tasg yw cynorthwyo y rhai sy’n analluog i ddefnyddio cludiant canolog, yn sgil eu hanabledd neu eu hoed, neu heb unrhyw fath o fynediad i wasanaeth cludiant cyhoeddus normal, i gyrraedd pen y daith ble bynnag y bo hynny gan fyw bywyd mor annibynnol ag sy’n bosib mewn perthynas â chludiant.
Croesawyd Ben Lake i’w pencadlys ym Mwlchygroes gan Caroline Wilson. Roedd AS Ceredigion yn awyddus i ddysgu mwy am y sefydliad ac esboniodd Caroline iddo am y nifer o sialensau sy’n wynebu cludiant cyhoeddus ar hyn o bryd – yn bennaf diffyg nawdd a gwirfoddolwyr, ac yn fwy difrifol y bygythiad i gludiant cymunedol yn sgîl y newid arfaethedig i drwyddedu gan yr Adran Drafnidiaeth.
Ar ôl trafodaeth fuddiol teithiodd Ben Lake AS o gwmpas Aberteifi ar un o wasanaethau Bws y Ddraig Werdd gan siarad â theithwyr a esboniodd iddo pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth i lawer ohonynt, gall teithio rhwng trefi a phentrefi fod yn anodd ac yn afresymol o gostus i’r rhai heb gar neu i’r rhai sy’n methu cael mynediad i gludiant cyhoeddus.
Dywedodd Caroline Wilson, Rheolwr Bws y Ddraig Werdd:
“Roedd Mr Lake yn awyddus iawn i glywed am y modd mae’n gwasanaeth yn gweithio a pha mor bwysig yw’r nawdd er mwyn cynnal ein gwasanaeth. Dywed ein cwsmeriaid wrthym bod y gwasanaeth a gynnigiwn yn allweddol: rydym yn darparu gwasanaeth fforddiadwy, hwylus, diogel a chyffyrddus i’w cludo i’r siopau, i apwyntiadau ysbyty, i ymweld â ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol – siwrneion mae llawer ohonom yn cymryd yn ganiataol. I rai o’n teithwyr dyma’r unig gyfle wythnosol iddynt i ddianc o’u cartrefi – gwasanaeth hanfodol sy’n eu cynorthwyo i gadw ychydig o annibyniaeth cyhyd â phosib.”
Dywedodd Ben Lake AS:
“Roedd yn hyfryd cwrdd ag aelodau o dîm Bws y Ddraig Werdd a’r teithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn rheolaidd. Gwyddom werth aruthrol cludiant cyhoeddus. Mae’n cynnig buddiannau llawer mwy na chludo pobl o ddrws i ddrws. Mae’n cwrdd â gofynion sydd heb eu diwallu, yn hybu gwerthoedd cymdeithasol ac yn linyn bywyd i bobl a fyddai fel arall yn cael eu torri i ffwrdd oddi wrth ffrindiau, teulu, gwaith, addysg, gweithgareddau cymdeithasol ac apwyntiadau angenrheidiol yn sgîl anabledd neu ddaearyddiaeth.”