AS ac AC Ceredigion yn galw am fwy 'brofi, olrhain ac ynysu' ar ôl cyhoeddi estyniad pellach i'r 'lockdown'

ibrahim-boran-zsKFQs2kDpM-unsplash.jpg

Mae Ben Lake AC ac Elin Jones AS yn dweud bod yn rhaid ffocysu nawr ar “brofi, olrhain ac ynysu” ar ôl i Lywodraeth y DU gadarnhau bod y cyfyngiadau symud i barhau yn y DU.

Cadarnhaodd Dominic Rabb, Ysgrifennydd Tramor y DU, yng nghynhadledd briffio Llywodraeth y DU heddiw y byddai’r mesurau yn parhau am dair wythnos arall.

Croesawodd Ben Lake AS ac Elin Jones AS y cyhoeddiad ddoe.  Dywedodd Mr Lake ei bod hi bellach “yn hanfodol” ailfabwysiadu’r broses o brofi ac olrhain cysylltiadau er mwyn osgoi “ail don o’r haint” a “chyfyngiadau symud estynedig.”

Ychwanegodd Elin Jones fod angen “sicrwydd” na fyddai’r cyfyngiadau yn cael eu codi nes bod holl wledydd y DU yn cytuno ac na ddylid codi’r cyfyngiadau os nad oedd achosion o fewn Cymru wedi cyrraedd penllanw.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Croesawaf y cyhoeddiad hwyr yma gan Lywodraeth y DU.  Mae’r cyngor yn glir, ni ddylid codi’r cyfyngiadau tan ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

“Rhaid i’r ffocws nawr fod ar brofi, olrhain ac ynysu er mwyn cyfyngu'r achosion newydd a’r galw am gyfyngiadau estynedig.  Os nad ydym am weld ail don o’r haint yn dilyn y cyfyngiadau yna mae ailfabwysiadu profion ac olrhain cysylltiadau yn hanfodol.

Ychwanegodd Elin Jones AC:

“Mae angen sicrwydd hefyd na fydd y cyfyngiadau yn cael eu codi tan fydd yr holl wledydd cartref wedi cytuno.  Ni ddylid codi’r cyfyngiadau os nad yw’r achosion yng Nghymru wedi cyrraedd eu penllanw.


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2020-04-18 12:42:30 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.