Mae Ben Lake AS a’r actor Stephen Mangan wedi uno gyda’i gilydd yn ystod y mis Mawrth hwn i gynorthwyo Marie Curie i ddarparu gofal a chefnogaeth i mwy o bobl sy’n byw gyda salwch terfynol.
Gwelwyd llun o Ben Lake a Stephen, Llysgennad Marie Curie, gyda Patricia Mc Donnell,Cynorthwyydd Ymateb Gofal Iechyd Marie Curie yn y digwyddiad seneddol i ddathlu lansio Apêl Fawr Marie Curie, eu hymgyrch codi arian flynyddol fwyaf a gynhelir bob mis Mawrth.
Addawodd Ben ei gefnogaeth i’r Apêl ac mae’n annog pobl leol i gyfrannu ac i wisgo un o biniau cennin pedr yr elusen er mwyn cynorthwyo i ariannu gofal a chefnogaeth holl bwysig i’r bobl hynny a’u teuluoedd sy’n byw gyda salwch terfynol.
Dywedodd Ben Lake: “Bob pum munud, mae rhywun ym Mhrydain yn marw heb dderbyn y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ar ddiwedd eu hoes. Bydd yr arian a godir o’r Apêl yn helpu Marie Curie i fod wrth law llawer mwy o bobl sydd ag unrhyw fath o salwch terfynol megis cancr terfynol, dementia, methiant y galon a chlefyd niwronau motor.”
Mae’r Apêl a lansiwyd ym 1986 yn holl bwysig ar gyfer codi arian sydd o fawr angen i alluogi’r elusen i barhau i ddarparu gofal nyrsio a hosbis, ariannu ymchwil ac ymgyrchu ar ran pawb a effeithir gan salwch terfynol.
Hefyd mae Llinell Gymorth genedlaethol rad yr elusen yn awr yn cynnig cefnogaeth glinigol, er mwyn galluogi unrhyw un sydd â salwch terfynol i gael cymorth Nyrs Marie Curie. Gall Nyrsys Cefnogaeth a Gwybodaeth ateb unrhyw gwestiynau clinigol neu bryderon sydd gan bobl, yn amrywio o ddeall diagnosis i esbonio triniaeth, neu drafod symtomau poenus a thrallodus.
Dywedodd yr actor Stephen Mangan: “Cefais brofiad uniongyrchol o’r gwahaniaeth maent yn eu wneud a hynny pan oeddent yn gofalu am fy mam ac yn ddiweddarach fy nhad yn eu cartref.
“Mae’n bur debyg ein bod i gyd yn gwybod am rywun sydd wedi ei effeithio â salwch terfynol. Dyna pam rwy’ mor falch i fod yma gyda Ben Lake AS i lansio Apêl Fawr Flynyddol Cennin Pedr Marie Curie.
Drwy gyfrannu a gwisgo un o biniau Cennin Pedr yn ystod mis Mawrth,’does wahaniaeth pa un a ydych yn ei gwisgo fel arwydd o ddathliad, mewn cydgefnogaeth neu er cof am rywun annwyl fe fyddwch chi a miloedd eraill yng Ngheredigion yn helpu i sicrhau bod miloedd eraill o bobl sydd yn marw yn cael y gofal a’r gefnogaeth maent yn eu haeddu.”
Dywedodd Scott Sinclair, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie: “Mae cael cefnogaeth Ben Lake AS a Stephen yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n Hapêl Fawr Cennin Pedr.”
“Mae gormod lawer o bobl yn colli allan ar y gofal a’r gefnogaeth sydd angen arnynt. Drwy gyfrannu a gwisgo pin cennin pedr ym mis Mawrth rydych yn ein cynorthwyo i gefnogi mwy o bobl yn ystod cyfnod mwyaf anodd eu bywydau. Rydym am wneud yn siwr bod pawb a effeithir gan salwch terfynol, ble bynnag maent yn byw, yn cael y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir – pa un a yw hynny yn ofal nyrsio safonol, cefnogaeth emosiynol ac ymarferol, neu’n fynediad cyflym i’r cymorthdaliadau sydd eu hangen arnynt.”
Er mwyn dysgu mwy am Apêl Fawr Cennin Pedr ymwelwch â www.mariecurie.org.uk/daffodil . Rhannwch eich hatgof gan ddefnyddio #everydaffodil. I gyfrannu £5 i Marie Curie, tecstiwch DAFF ar 70111.