Grant o £600,000 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grant o £600,000 ychwanegol i’r Eisteddfod Genedlaethol, i annog y defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau.

Daw’r newyddion ar adeg ble roedd gofidiau am gostau cynyddol cynnal yr Eisteddfod eleni yn sgil chwyddiant, costau ychwanegol a’r pandemig, gan bydd angen mwy o gyllid i sicrhau bod y mesurau Covid 19 priodol ar waith dros y maes.  

Dywedodd Elin Jones AS: ‘Dyma newyddion gwych iawn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith dwi’n llwyr ymwybodol o’r heriau sydd angen i’r trefnwyr oresgyn eleni, a bydd yr arian ychwanegol yma o gymorth mawr.

Rydyn ni gyd wirioneddol angen digwyddiad fel yr Eisteddfod i edrych ymlaen ati eleni, a gallwn nawr sicrhau fod hon yn ddathliad enfawr o’n diwylliant a’n hiaith ar gaeau Tregaron ym mis Awst. Steddfod Tregaron amdani!’


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2022-01-25 11:52:30 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.