Ben Lake AS yn cyflwyno Cynnig Seneddol mewn ymateb i’r penderfyniad i ohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

eisteddfod_featured.png

Ar ddydd Llun, 25 Ionawr, cyhoeddwyd bod Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol wedi dod i benderfyniad i ohirio’r brifwyl yng Ngheredigion unwaith eto eleni. Y bwriad yw cynnal y brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2023 a chynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn 2024. 

Dywedodd y Prif Weithredwr, Betsan Moses: 

“… yn anffodus, ry’n ni’n wynebu blwyddyn arall hynod o heriol yn ein hanes.  Mae colli Eisteddfod arall yn mynd i gael effaith pellgyrhaeddol arnom ni fel sefydliad.  Ry’n ni wedi gorfod dechrau ar broses ymgynghori gyda staff gan fod rhaid i ni leihau’r tîm i hanner ei faint er mwyn gallu goroesi’r cyfnod nesaf.  Mae cyhoeddi hyn heddiw yn dorcalonnus i bawb sy’n rhan o’r Eisteddfod.” 

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad mae Ben Lake AS wedi cyflwyno Cynnig Seneddol yn cydymdeimlo â threfnwyr yr Eisteddfod ac yn mynegi pryderion am yr heriau anferthol sy’n wynebu’r sefydliad yn sgil y penderfyniad anochel hwn. 

Mae’r Cynnig Seneddol yn nodi: 

“That this House notes with sadness the unavoidable and sensible postponement of the National Eisteddfod of Wales in Ceredigion until 2022 due to the covid-19 pandemic; expresses deep concern about the incredibly difficult financial situation this poses for the festival organisers and for staff who are now at risk of redundancy; asks the UK Government what financial assistance it can provide to help support Wales’ premiere cultural festival; commends the ongoing work of the Eisteddfod AmGen for providing alternative ways for people across Wales to celebrate the Eisteddfod during the pandemic; and looks forward to people coming together in-person for Eisteddfod 2022.” 

Dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion:

“Wrth reswm, bydd y penderfyniad i ohirio’r brifwyl unwaith eto eleni yn destun siom i drigolion ardal Tregaron ac i gymunedau ar draws Ceredigion sydd wedi gweithio mor galed i baratoi a chodi arian ar gyfer croesawu’r ŵyl genedlaethol i’n sir, ond rwy’n siŵr y bydd pawb yn cytuno taw dyma’r penderfyniad synhwyrol i’w gymryd dan yr amgylchiadau.” 

“Y gofid pennaf ar hyn o bryd yw effaith y penderfyniad hwn ar sefyllfa ariannol yr Eisteddfod Genedlaethol a’r sgil effaith posib ar y gweithlu profiadol. Mae fy Nghynnig Seneddol yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cefnogaeth ariannol i’r sefydliad er mwyn sicrhau parhad prifwyl diwylliant Cymru, fel y gallwn edrych ymlaen yn hyderus tuag at Eisteddfod 2022.” 


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-01-27 15:56:46 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.