Gethin Davies: Aber-porth a'r Ferwig

Graphics_Cyhoeddi_Ymgeiswyr_(21).png

Cefndir

  • Wedi'i eni a'i fagu ar Fferm Pencnwc, Aberporth ac mae'n parhau i fyw yn Aberporth
  • Wedi cefnogi blaenoriaethau'r cymunedau yn gyson yn ystod y 5 mlynedd diwethaf
  • Yn cael ei adnabod fel rhywun sydd ar gael 24/7 i helpu etholwyr gyda'u problemau

Pam pleidleisio dros Gethin?

"Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd eich gwasanaethu fel eich Cynghorydd Sir etholedig am y 5 mlynedd diwethaf. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i gymunedau pentrefol gael eu cefnogi a'u hamddiffyn ac, o ganlyniad, rwyf hefyd yn eistedd ar y Cyngor Cymuned, Pwyllgor Neuadd y Pentref ac yn llywodraethwr ysgol. Byddaf bob amser yn ymladd dros yr hyn sy'n iawn wrth gynrychioli pobl ein ward. Rwy'n gynghorydd hen ffasiwn ac ymarferol, ac yn credu mewn datrys problemau brys ar unwaith h.y. rwyf wedi clirio draeniau ac wedi llenwi bagiau tywod i bobl hŷn er mwyn helpu i atal llifogydd. Rwyf hefyd yn codi sbwriel bob bore pan fyddaf yn cerdded fy nghi, Mabel."

Blaenoriaethau Gethin

"Byddaf yn parhau i frwydro dros dai fforddiadwy yn y ward i alluogi ein pobl ifanc i fyw yn eu cymunedau eu hunain. Rwyf wedi cynrychioli etholwyr ynglŷn â'u pryderon am ail gartrefi a chartrefi gwyliau, ac effaith hyn ar ein cymunedau clos - mae hyn bellach wedi dod yn flaenoriaeth polisi Plaid Cymru. Ar hyn o bryd rwy'n brwydro i gadw llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddir ar hyn o bryd gan blant ysgolion cynradd i gyrraedd yr ysgol. Byddaf yn parhau i lobïo'r Cyngor Sir i ddiogelu a datblygu'r adnoddau a’r isadeiledd yn ein cymunedau, ac er diogelwch ein plant, byddaf yn llwyr gefnogi gweithredu terfyn o 20mya yn ardaloedd preswyl y ward."

 

Manylion cyswllt
01239 810163
07735 598958
 

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-01-26 18:28:50 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.