Gareth Davies: Llanbadarn Fawr

Keith_Henson_(2).png

Cefndir

  • Wedi ei eni a’i fagu yng Ngheredigion ac wedi byw yn Llanbadarn Fawr am dros 35 o flynyddoedd.
  • Yn aelod o Gyngor Cymuned Llanbadarn Fawr ac yn weithgar iawn yn y gymuned leol.
  • Wedi ymddeol o weithio yn y theatrau yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.
  • Cyn-Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion.

Pam pleidleisio dros Gareth?

"Rwyf unwaith eto yn gofyn am eich cefnogaeth fel ymgeisydd Plaid Cymru yn ward Llanbadarn Fawr yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion ar y 5ed o Fai 2022.

Mae wedi bod yn wir fraint ac anrhydedd eich cynrychioli ar y Cyngor ers 2004. Yn ystod y cyfnod yma rwyf wedi gwneud fy ngorau i gynrychioli trigolion Llanbadarn Fawr ac i sicrhau fod y pentref a’i anghenion yn cael y flaenoriaeth  angenrheidiol.

Oherwydd y pandemig COVID-19 mae’r ddwy flynedd a hanner ddiwethaf wedi bod yn heriol i ni i gyd ac rydym wedi gorfod dioddef nifer o gyfyngiadau ar ein bywydau. Lleisiais bryderon ynglŷn â rôl y Cyngor wrth weithredu nifer o’r cyfyngiadau yma. Yn ogystal, mi wnes ddelio a cheisio cael datrysiad i nifer o faterion megis ceisiadau cynllunio, diogelwch cerddwyr a defnyddwyr ffyrdd yn ogystal â chyfyngiadau cyflymder, llwybrau cyhoeddus gan gynnwys baw cŵn, sicrhau adnoddau digonol gogyfer â'r Gwasanaeth Ambiwlans, a herio cyllideb y Cyngor.

Hoffwn yn fawr iawn i barhau i fod yn gynghorydd  brwdfrydig, egnïol, cryf ac effeithiol a fydd bob amser yn rhoi buddiannau trigolion Llanbadarn Fawr yn gyntaf. Os caf fy ailethol mi wnaf barhau i'ch hysbysu am ddigwyddiadau o fewn y ward.

Byddaf yn dra diolchgar am eich cefnogaeth wrth ymgeisio i gael fy ailethol am dymor pellach."

Blaenoriaethau Gareth

"Mae'r cynnydd mewn traffig yn achosi problemau ar draws y pentref  ac rwy'n pryderu ynglŷn â diogelwch cerddwyr a defnyddwyr eraill yn enwedig y plant a’r henoed. Fe fyddaf yn parhau i frwydro i sicrhau diogelwch pawb ac mi fyddaf yn lobïo Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau cyfyngu cyflymder drwy’r pentref i gyd. Mi fyddaf yn parhau i gefnogi ffordd osgoi i Lanbadarn Fawr.

Mi wnaf sicrhau fod materion cynllunio yn cael eu delio gyda sensitifrwydd a synnwyr cyffredin ac mi wnaf gynyrchioli buddiannau’r trigolion gyda thegwch.

Os caff y ailethol, byddaf yn parhau i gadw mewn cysylltiad gyda thrigolion drwy gylchlythyron rheolaidd rwyf wedi’u dosbarthu dros y deunaw mlynedd ddiwethaf, bwletinau ag e-byst."

 

Manylion cyswllt
[email protected]
01970 624929
07855 906326

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-01-25 16:42:37 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.