Plaid Cymru yn galw mewn penderfyniad NVZ Llywodraeth Cymru

Plaid Cymru yn galw mewn penderfyniad NVZ Llywodraeth Cymru

Mae penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i ddynodi Cymru gyfan yn Barth Peryglu Nitradau, wedi’i galw mewn i’r Senedd gan Blaid Cymru er mwyn cynnal pleidlais arno yn y Senedd ar 3 Mawrth. Plaid Cymru fydd yn arwain y ddadl ac os bydd yn llwyddiannus, ni fydd y rheoliadau’n dod i rym ym mis Ebrill.

Mae Llŷr Gruffydd AS, Llefarydd Ffermio Plaid Cymru, wedi galw’r penderfyniad yn dro pedol yn dilyn addewidion y Gweinidog Amaeth i ffermwyr dros y flwyddyn ddiwethaf, pan wnaeth ailadrodd sawl tro y byddai cyflwyno’r rheoliadau hyn yn amhriodol ac ansensitif yn ystod pandemig byd-eang.

Dywedodd Elin Jones, Aelod o’r Senedd dros Geredigion:

“Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i amaethyddiaeth yng Ngheredigion. Mae ein diwydiant yn wynebu heriau unigryw dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Fe fydd toriadau o £137miliwn i gyllideb amaeth Cymru gan Lywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig, mae TB yn dal i barlysu ac i fod yn faich ar gynifer o ffermydd a mae Brexit a’r Coronafeirws wedi creu llawer o ansicrwydd ac wedi amharu ar amodau arferol y farchnad 

“Mae penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i osod deddfwriaeth Parthau Perygl Nitradau drwy Gymru gyfan o 1 Ebrill ymlaen yn un gormodol, gyda goblygiadau enfawr o ran costau i ffermydd ar draws Ceredigion.

“Fel y gwyddom, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, dim ond 8% o dir Cymru sydd angen ei gynnwys fel Parthau Perygl Nitradau er mwyn cael gwared o lygredd dŵr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cynghori cyn hyn na ddylid gweithredu’r ddeddfwriaeth ym mhob rhan o Gymru, gan rybuddio y gallai gynyddu llygredd, gyda goblygiadau difrifol o ran adnoddau.

“Rwy wedi trefnu cyfarfod ar lein i drafod y materion hyn gyda ffermwyr yng Ngheredigion yn dilyn y bleidlais yn y Senedd, lle byddaf hefyd yn adrodd yn ôl ar y ddadl. Fe fydd Ben Lake AS a Dafydd Llywelyn, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, hefyd yn bresennol i drafod materion sy’n ymwneud â San Steffan a throseddu yng nghefn gwlad, yn ogystal â Cefin Campbell, ymgeisydd Seneddol dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.”

Cynhelir y cyfarfod drwy Zoom am 7.30pm. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma.


Dangos 1 ymateb

  • Matthew Jones
    published this page in Newyddion 2021-02-23 11:35:13 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.