DYFODOL EIN STRYD FAWR: Sesiwn i fusnesau ardal Aberteifi

Dyfodol_ein_stryd_fawr__Aberteifi_v2_(2).png

Ydych chi'n rhedeg siop ar stryd fawr Aberteifi neu'n berchen ar fusnes yn yr ardal?

Ymunwch â ni am 6pm ar yr 8fed o Ebrill dros Zoom i drafod dyfodol y dref a'r stryd fawr yng nghwmni Elin Jones, Ben Lake a Maer Aberteifi, y Cyng. Clive Davies.

Bydd cyfle i drafod:

  • y sefyllfa bresennol yn sgil y pandemig a'r camau nesaf o ran codi cyfyngiadau;
  • sut mae adeiladu ar lwyddiannau diweddar Aberteifi a chynnal y momentwm dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod;
  • hunaniaeth a chryfderau'r dref yn ogystal â pha heriau sydd ar y gorwel a sut gallwn ni gydweithio i'w horesgyn.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cwblhewch y manylion islaw.

PRYD
April 08, 2021 at 6:00pm - 8pm
BLE
Zoom
CYSWLLT
Carys Lloyd ·

A fyddwch yn dod?


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page 2021-03-17 12:04:26 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.