Mae Ben Lake AS, llefarydd amaeth Plaid Cymru yn San Steffan wedi codi pryderon heddiw (dydd Mercher, Mai 31) am effaith negyddol cytundebau masnach y DU-Awstralia a DU-Seland Newydd ar economi Cymru.
Gyda’r cytundebau yn dod i rym ganol nos, mae Mr Lake wedi annog Llywodraeth y DU i gynnwys y gwledydd datganoledig mewn cytundebau masnach yn y dyfodol “oherwydd methiant amlwg i hyrwyddo buddiannau economi Cymru” gan weinidogion y DU.
O dan amodau cytundebau masnach Awstralia a Seland Newydd, bydd tollau ar gynnyrch amaethyddol yn cael eu dileu yn raddol, ac mae Plaid Cymru yn rhybuddio bydd hyn yn niweidio amaethyddiaeth Cymru yn yr hir dymor. Bydd cael gwared ar y tollau yn codi pryderon am effaith mewnforion heb gyfyngiadau ar sectorau sensitif fel cig eidion, cig oen, llaeth a garddwriaeth, a gallai hyn effeithio’n andwyol ar ffermwyr Cymru a’r economi ehangach.
Dywedodd Ben Lake bod y DU, wedi “caniatáu llwybr eang a mwy neu lai dirwystr i ddwy wlad amaethyddol fawr i’n marchnadoedd cig eidion, cig oen, a chynnyrch llaeth, y cyfan er mwyn chwilio am benawdau gwleidyddol cyfleus.”
Mae Mr Lake yn annog Llywodraeth y DU i gydnabod yr effaith gynyddol bydd y cytundebau masnach hyn yn eu cael ar ffermio yng Nghymru. Ychwanegodd fod hyn yn arbennig o bwysig mewn cyd-destun lle adroddir bod Llywodraeth y DU mewn trafodaethau gyda Chanada a Mecsico ynglŷn â chytundebau masnach posibl.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae dechreuad cytundebau masnach DU-Awstralia a DU- Seland Newydd yn cychwyn ar bennod bryderus i ffermio yng Nghymru. Wrth ddileu’r tollau ar gynnyrch amaethyddol bydd y cytundebau masnach yma yn gosod cynsail bydd gwledydd eraill bron yn sicr yn eu defnyddio wrth drafod gyda Llywodraeth y DU.
"Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio bod hyn yn gosod cynsail beryglu, ac mae’n siomedig bod Llywodraeth y Du wedi penderfynu rhoi mewn ar y materion yma er mwyn enillion dibwys. Mae’r DU wedi caniatáu llwybr eang a mwy neu lai dirwystr i ddwy wlad amaethyddol fawr i’n marchnadoedd cig eidion, cig oen, a chynnyrch llaeth, y cyfan er mwyn chwilio am benawdau gwleidyddol cyfleus.”
“Mae goblygiadau’r cytundebau masnach yma ar yr economi Gymreig yn ddifrifol, mae Amaethyddiaeth yn cyflogi dros 52,800 o bobl ac yn ffurfio 3.2 y cant o’r gweithlu, rhif sy’n rhagori yn sylweddol ar gyfartaledd y DU o 1.1 y cant. Mewn ardaloedd gweledig fel fy etholaeth yng Ngheredigion, mae amaethyddiaeth, coedwigaeth, a physgota yn cynrychioli dros 12 y cant o’r gweithlu lleol.
“Wrth i drafodaethau fynd yn ei blaen gyda Chanada a Mecsico, mae'n hanfodol bod amddiffyniadau'r farchnad yn cael eu cynnal. Mae methiant amlwg Llywodraeth y DU i hyrwyddo buddiannau economi Cymru mewn trafodaethau blaenorol yn tanlinellu pwysigrwydd rôl y gwledydd datganoledig mewn trafodaethau yn y dyfodol.”
Dangos 1 ymateb