Elin Jones AC & Ben Lake AS yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Nhregaron i drafod yr heriau a'r cyfleon sy’n wynebu’r dref
Bu i gyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan Elin Jones AC a Ben Lake AS adnabod yr angen am swyddi a datblygiad economaidd fel blaenoriaethau i ddyfodol tref Tregaron.
Cynhaliwyd y cyfarfod ar Ddydd Iau 24ain o Fai 2018 yn Neuadd Goffa Tregaron, gan gynnig cyfle i drigolion a busnesau leisio eu syniadau a phryderon ynghylch yr heriau sy’n wynebu’r dref, a'r cyfleoedd i ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf.
Mae Tregaron, fel amryw o drefi eraill dros Geredigion a gorllewin Cymru wedi wynebu amryw o heriau dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r cyfarfod cyhoeddus yma yn dilyn cyfarfod tebyg gynhaliwyd gan yr AC ac AS yn Llandysul yn 2017.
Cadeiriwyd y noson gan Dewi Sion Evans, gyda’r panel wedi ei gyfansoddi o naill Elin Jones AC a Ben Lake AS, Gwern Evans o gwmni Rhiannon Cyf. a Gwilym Jenkins, cadeirydd cyngor tref Tregaron. Gosodwyd pwyslais nodedig ar adborth gan y gynulleidfa – gyda’r gobaith o glywed syniadau creadigol, ymarferol ac arloesol ar gyfer dyfodol y dref a’r gymuned.
Trafodwyd amrywiaeth o faterion, gan gynnwys o rwystredigaeth o golli gwasanaethau pwysig megis y pwll nofio a banciau, i’r angen creiddiol am fyw o swyddi a datblygiad economaidd er mwyn denu’r genhedlaeth iau.
Cyfeiriwyd unwaith yn ragor tuag at yr angen angenrheidiol i ddatblygu band llydan ac isadeiledd digidol, ynghyd a’r amryw o gyfleoedd sy’n deillio yn y dref i ddatblygu ei diwydiant twristiaeth drwy hyrwyddo delwedd unigryw'r dref a’r amgylchfyd cyfoethog.
Bu’r cyfarfod hefyd gynnig cyfle i David Bennett ar ran y cyngor tref i adrodd nôl ar arolwg diweddar a gynhaliwyd yn lleol ar flaenoriaethau trigolion y dref, ac i Alan Haird o Gyngor sir Ceredigion drafod ‘Cynllun Cynefin’ Llywodraeth Cymru, gall gynnig cefnogaeth posib i’r dref.
Yn siarad wedi’r digwyddiad, nododd Elin Jones AC:
“Fel amryw o drefi marchnad ar draws Ceredigion, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai caled i Dregaron, yn enwedig gyda’r golled o amryw o wasanaethau pwysig.”
“Fodd bynnag, serch math broblemau, does dim amau bod gan Dregaron y potensial a brwdfrydedd i lwyddo – mae llwyddiant diweddar Tregaroc yn profi hyn. Rwy’n hyderus gydag ychydig bach o waith caled, medrwn elwa ar hanes a delwedd gyfoethog Tregaron a sicrhau dyfodol llewyrchus i’r dref a’r ardal.”
Ychwanegodd Ben Lake AS:
“Bu i mi groesawu’r cyfle a gafwyd yn y cyfarfod i glywed barn trigolion Tregaron a’r ardal ynghylch y blaenoriaethau i ddyfodol y dref. Roedd yn gyfarfod agored ac onest, a tra bod rhai heriau yn wynebu’r dref, mae’n amlwg bod chwant clir i adeiladau ar y cyfleoedd posib.”
“Adnabwyd gwella’r cyfleoedd i fusnesau ail-leoli i’r dref a denu teuluoedd i Dregaron fel blaenoriaethau clir, ac edrychaf ymlaen at nawr gael gweithio ochr yn ochr gyda thrigolion ac awdurdodau i adeiladu ar y cyfleoedd hyn.”