Mae Ben Lake, AS Ceredigion, wedi annog elusennau ac achosion da lleol i wneud cais am arian a godwyd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.
Bydd dros 3,500 o sefydliadau ar draws Prydain yn derbyn cyfran o bron i £17 miliwn eleni.
Gall prosiectau lleol wneud cais am arian gan y Postcode Community Trust sydd ar gyfer sefydliadau sy'n gweithredu o fewn Cymru. Gall elusennau cofrestredig wneud cais am hyd at £20,000 o gyllid, sydd ar gael ar gyfer costau gwaith prosiect a chostau craidd.
Derbynnir ceisiadau yn fisol hyd Hydref 2021.
Dywedodd Ben Lake: “Dros y flwyddyn ddiwethaf mae cymaint o elusennau Ceredigion wedi ymateb i’r pandemig trwy weithio i gefnogi ac amddiffyn ein cymunedau. Fodd bynnag, mae wedi bod yn gyfnod heriol i godi arian at elusennau.
“Mae’r arian a godir gan chwaraewyr People’s Postcode Lottery ar gael i elusennau lleol, ac maent yn cynnig cyfle gwerthfawr i sefydliadau lleol i sicrhau cyllid. Byddwn i wrth fy modd yn gweld mwy o ymgeiswyr llwyddiannus o'r ardal hon, felly rwy'n annog pob elusen leol a grŵp cymunedol i ystyried cyflwyno cais."
Dywedodd Malcolm Fleming, pennaeth materion cyhoeddus People’s Postcode Lottery, “Mae chwaraewyr People’s Postcode Lottery yn gwneud gwahaniaeth enfawr i elusennau ledled y wlad ac rydym yn falch iawn gweld y dylai’r cyllid sydd ar gael ar gyfer elusennau lleol eleni fwy na dyblu.
“Rydym yn annog pob sefydliad sydd â diddordeb i ymweld â gwefan yr ymddiriedolaeth i ddarganfod mwy am yr arian sydd ar gael a sut i gyflwyno cais.”
Fel ymrwymiad i gefnogi achosion da llai, byddwn ond yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau sydd ag incwm blynyddol o lai na £1 miliwn. Rhoddir blaenoriaeth i'r rheini sydd ag incwm llai na £500,000.
Ceir mwy o wybodaeth, gan gynnwys canllaw cyllido a chwis cymhwysedd, ar wefan yr ymddiriedolaeth.
Dangos 1 ymateb