Mae Plaid Cymru wedi addo creu Cwmni Seilwaith Band Eang Cymreig dan berchnogaeth gyhoeddus fyddai’n sicrhau bod gan cartref a busnes yng Nghymru fynediad at fand eang ffibr erbyn 2025.
Dywedodd Ben Lake, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, fod y diffyg cysylltedd presennol yn “ffrwyno’r economi wledig yng Nghymru, efallai yn fwy na dim arall”.
Nid yn unig y mae Llywodraeth y DU wedi methu, yn ymarferol, ag amlinellu sut y bydd yn targedu ardaloedd anodd eu cyrraedd, mae hefyd wedi methu ag amlinellu lle y byddai'n cyfeirio'r arian. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi gwario arian i wella seilwaith band eang mewn tair o bedair gwlad y DU, ond nid Cymru. Rhoddwyd £150 miliwn i Ogledd Iwerddon i wella cysylltedd band eang fel rhan o’r ddêl rhwng y Llywodraeth Geidwadol a’r DUP. Daeth Llywodraeth y DU o hyd i £10 miliwn arall ar gyfer band eang ffibr-llawn mewn chwe ardal brawf ledled Lloegr a'r Alban, ond nid yng nghefn gwlad Cymru.
Mae cynllun tri phwynt Plaid Cymru i ddileu mannau gwan band eang yn cynnwys y mesurau canlynol:
- Torri'r dreth ffibr - Ar hyn o bryd mae cyfraddau busnes yn berthnasol i seilwaith ffibr, yn union fel eiddo masnachol arall. Mae Plaid Cymru yn credu bod hyn yn cyfyngu ar fuddsoddiad ac y dylid ailfeddwl.
- Adeiladau newydd sy'n addas i'r pwrpas - Mae gormod o gartrefi newydd yn dal yn cael eu datblygu heb ddarpariaeth ar gyfer band eang ffibr. Mae Plaid Cymru eisiau i bob cartref sy’n cael ei adeiladu o'r newydd ymgorffori cysylltiadau rhyngrwyd gigabit.
- Sgiliau - Bydd angen nifer fawr o beirianwyr i gyflawni'r holl waith. Byddai Plaid Cymru yn buddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau er mwyn i'r diwydiant allu cwrdd â'r galw.
Dywedodd Ben Lake:
“Mae band eang, neu yn hytrach ei ddiffyg, yn ffrwyno’r economi wledig yng Nghymru, efallai yn fwy na dim arall. Mae Ceredigion ymhlith y 10 etholaeth waethaf o ran cyflymderau band eang.
“Mae yna ganfyddiad bod Cymru yn gallu derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ond hyd yn hyn mae’r ddau wedi methu ag amlinellu sut y bydd band eang yn cael ei ddarparu i rannau helaeth o’n gwlad. Mewn gwirionedd, mae Cymru wedi colli ar fuddsoddiad hanfodol dro ar ôl tro.
“Pam y dylai gwasanaethau hanfodol, fel band eang, gael eu hystyried fel moethau i’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad? Os ydym am wneud ardaloedd gwledig yng Nghymru yn lleoedd mwy ymarferol i fusnesau leoli ac ehangu, ac os ydym am sicrhau y gall cymunedau elwa'n llawn o'r cyfleoedd a roddir gan well cysylltedd digidol, mae'n hanfodol buddsoddi mewn band eang.
“Os ydym o ddifrif ynglŷn â gwella cysylltedd fel ffordd i gefnogi a chynnal y busnesau entrepreneuraidd, arloesol a hynod bwysig hynny, nid yw addewidion gwag yn ddigon da. Rhaid i ni osod targedau uchelgeisiol sydd wedi’u costio a’u cynllunio’n drwyadl, ac mae cynllun tri phwynt Plaid Cymru yn gwneud hynny."