Hyd y 7fed o Fawrth, mae Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd yn anelu i liniaru'r effaith gwastraff bwyd ar y blaned.
Mae AS Ben Lake wedi annog trigolion ledled Ceredigion i gymryd rhan yn ‘Her Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd’ i sicrhau nad oes unrhyw fwyd bwytadwy yn cael ei roi yn y bin.
Dywed WRAP (Waste & Resources Action Programme) fod Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd yn anelu at gael pobl i wneud newidiadau syml yn y ffordd y maent yn rheoli eu bwyd er mwyn osgoi ei wastraffu.
Adroddodd WRAP fod 6.6 miliwn tunnell o wastraff bwyd yn dod o gartrefi'r DU bob blwyddyn, ar gost o £14 biliwn.
Mae cartrefi yn y DU yn taflu 20 miliwn o dafelli o fara bob dydd. Dywedodd WRAP y byddai lleihau'r gwastraff dyddiol hwn yn cael yr un effaith ar newid yn yr hinsawdd â phlannu bron i 5.3 miliwn o goed yn flynyddol.
Wrth gefnogi #FoodWasteActionWeek, dywedodd Ben Lake AS: “Nid arbed arian yn unig yw diben torri gwastraff bwyd. Mae'n rhan hanfodol o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a gwarchod ein hamgylchedd gwerthfawr. Mae llawer gormod o fwyd yn cael ei daflu, ond gallwn weithredu i fynd i'r afael â hyn. Mae Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd yn gyfle allweddol i ddod â'r gadwyn gyflenwi bwyd cyfan ynghyd, o'r fferm i'r fforc, er mwyn ymateb i'r mater pwysig hwn. "
Ychwanegodd Marcus Gover, Prif Weithredwr WRAP “Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd nawr a dyma’r bygythiad mwyaf i’n planed, a chenedlaethau’r dyfodol. Rhaid inni weithredu, yn gyflym. Mae gwastraffu bwyd yn cyfrannu'n enfawr at allyriadau byd-eang ond yn aml mae'n cael ei esgeuluso neu ei anwybyddu.
“Rydyn ni wedi dod mor gyfarwydd â gwastraffu bwyd nes ein bod ni wedi anghofio ei werth, a’r gost ar y byd naturiol o ganlyniad i fwydo ein poblogaeth gynyddol fyd-eang. Mae Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd yn ymwneud â chael pawb i weithredu oherwydd, ni yn ein cartrefi sy'n achosi’r broblem fwyaf. Felly, mater i ni i gyd yw bod yn rhan o’r ateb hefyd, ac mae hwn yn un mater amgylcheddol y gall pob un ohonom fynd i’r afael ag ef, a hynny heb fawr o ymdrech”.
Dangos 1 ymateb