Ben Lake AS ac Elin Jones AC yn cwrdd â chynrychiolwyr Banciau Bwyd Ceredigion i drafod y galw presennol yn y sir ac i ddeall pam bod cynnydd yn y nifer o bobl mewn ardaloedd gwledig sydd angen cyflenwadau bwyd brys.
Yr wythnos hon cyhoeddodd y Trussell Trust ei ystadegau banc bwyd blynyddol. Rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018 cafodd 1515 o becynnau bwyd brys eu rhannu gan Rwydwaith Banc Bwyd Trussell Trust i bobl mewn argyfwng yng Ngheredigion, gyda 580 o’r pecynnau bwyd hynny yn rhai i blant.
Dim un on o’r tri banc bwyd cyfredol yng Ngheredigion sydd wedi’u cofrestru gyda’r Trussell Trust gyda’r ddau banc bwyd arall yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan yn dosbarthu bwyd yn annibynnol. Mae ffigurau diweddar Banc Bwyd Aberystwyth yn dangos bod y nifer o becynnau bwyd a ddosbarthwyd wedi cynyddu’n sylweddol dros y 5 mlynedd diwethaf – gyda’r 136 o becynnau bwyd a ddosbarthwyd yn 2012 yn cynyddu i 681 pecyn bwyd yn 2017. Oedi yn y system budd-daliadau neu lleihad mewn budd-daliadau oedd yn gyfrifol am 49% o’r pecynnau bwyd hynny. Mae banciau bwyd Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan wedi gweld patrymau tebyg dros y blynyddoedd diwethaf.
Bydd 4ydd banc bwyd Ceredigion yn agor ei ddrysau yn Llandysul ar 20 Mai, sy’n dangos nad yw tlodi a’r galw am gyflenwadau bwyd brys yn broblem sy’n effeithio ar ardaloedd poblog y sir yn unig.
Dywedodd Lleucu Meinir, cynrychiolydd Banc Bwyd Llandysul:
“Penderfynwyd bod angen am fanc bwyd swyddogol yn Llandysul, yn enwedig gyda dyfodiad Credyd Cynhwysol a fuasai’n ergyd ac yn gwaethygu sefyllfa pobl yn gyflym. Dechreuwyd ar y broses o greu Banc Bwyd Llandysul dan ymbarél Golau, grŵp o Gristion lleol. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Ysgol Bro Teifi am eu cefnogaeth pwysig iawn ac i wirfoddolwyr Banc Bwyd Llambed am ddangos y ffordd i ni.”
Dywedodd Ben Lake:
“Nid oes wythnos yn pasio yn swyddfa’r etholaeth heb i ni ddod i gyswllt ag etholwr sy’n wynebu newid, toriad neu gosb i’w budd-daliadau. Mae effeithiau o’r fath hefyd yn cael eu teimlo gan y bobl hynny sydd ar gyflogau isel iawn – pobl sy’n gweithio’n galed ond nad ydynt yn ennill digon o gyflog i allu fforddio byw.
“Mae’r cynnydd yn y galw am barseli bwyd brys yng Ngheredigion yn bryderus tu hwnt. Mewn ffordd, efallai bod hynny’n arwydd o’r gwaith anhygoel mae asiantaethau lleol yn ei wneud yn cyfeirio pobl i’r gwasanaeth, ond does dim amheuaeth bod yr agenda llymder parhaol yn cael effaith bellgyrhaeddol yma yng Ngheredigion.”
Mae’r Trussell Trust hefyd wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos hon ar brofiadau Banciau Bwyd ers cyflwyno Credyd Cynhwysol. Mae dadansoddiad newydd o 38 banc bwyd ar draws Prydain sydd wedi bod yn gweithredu mewn ardaloedd lle mae system Credyd Cynhwysol wedi’i gyflwyno llawn ers dros flwyddyn yn dangos bod y banciau bwyd hynny wedi gweld cynnydd o 52% dros gyfnod o 12 mis ers cyflwyno Credyd Cynhwysol yn llawn yn yr ardal.
Yn ystod y cyfarfod gyda Ben Lake ac Elin jones, rhannodd cynrychiolwyr Banc Bwyd Ceredigion eu pryderon ynghylch y pwysau cynyddol tebygol fydd ar eu gwasanaethau yn dilyn cyflwyno’r system Credyd Cynhwysol y disgwylir iddo gael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2018.
Dywedodd Julia Lim, Banc Bwyd Llanbedr Pont Steffan:
“Rydym yn poeni’n gynyddol am effaith Credyd Cynhwysol ar gartrefi yn ein cymunedau, yn enwedig gan ystyried y nifer sylweddol o weithwyr hunan-gyflogedig yn ein cymunedau a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau hyn. Pryder arall yw amseriad cyflwyno’r system newydd. Mae mis Rhagfyr yn gyfnod lle gwelir biliau tanwydd uwch, costau ychwanegol y Nadolig, ac oriau gwyliau swyddfeydd adrannau’r llywodraeth a’r asiantaethau cefnogaeth allai arwain at ddiffyg mynediad trigolion at gyngor a chymorth angenrheidiol.”
Dywedodd Elin Jones:
“Mae’r cynnydd hwn yn y defnydd o fanciau bwyd yn symbolaidd o’r ffaith fod bywyd i nifer o deuluoedd yn mynd yn anoddach. Mae costau byw yn cynyddu’n gynt na chyflogau ac felly nid yw’n syndod bod banciau bwyd yn gorfod llenwi’r bwlch.
“Hoffwn dalu teyrnged i drefnwyr a gwirfoddolwyr banciau bwyd Aberystwyth, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan a Llandysul am y ffordd y maent wedi camu i’r adwy i helpu eu cymdogion mewn angen. Gofynnwn yn garedig i’r rheiny sydd mewn sefyllfa i wneud hynny i ystyried cyfrannu at eu banc bwyd lleol.”
Ychwanegodd Ben Lake:
“Mae’r pwysau cynyddol ar fanciau bwyd Ceredigion yn dangos methiant sylfaenol mesurau llymder Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ond ar yr un pryd mae’n dangos haelioni a thrugaredd cymunedau Ceredigion tuag y bobl hynny sydd mewn angen.”