DYFODOL EIN TIR – Trafodaeth gyhoeddus
03/03/21 – 7:30yh - Zoom
Mae ein diwydiant amaethyddol yn wynebu heriau unigryw dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. O’r ansicrwydd parhaus sy’n deillio o gytundebau masnachu ôl-Brexit, i bryder am gyflwyniad y mesuriadau NVZ dadleuol.
Gydag etholiadau Senedd 2021 yn brysur agoshau, ymunwch â Phlaid Cymru Ceredigion am drafodaeth gyhoeddus arbennig er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a chyfleoedd hyn sydd yn wynebu cefn gwlad dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd yn gyfle i rannu eich barn a phryderon ar amrywiaeth o themâu a phynciau – o doriadau i gyllid fferm, i ddeddfwriaeth amgylcheddol, i ymosodiadau cŵn a throsedd gwledig.
Fe fydd y panel yn cynnwys:
- Ben Lake AS (Cadeirydd)
- Elin Jones AS
- Dafydd Llywelyn – Comisiynydd Heddlu Plaid Cymru dros Ddyfed-Powys
- Cefin Campbell – Ymgeisydd rhanbarthol Plaid Cymru am etholiadau Senedd 2021
Bydd y noson yn cael ei chynnal ar y 3ydd o Fawrth 2021 am 7:30yh dros Zoom.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ac i dderbyn y linc, cwblhewch y ffurflen gofrestru.
Dangos 24 o ymatebion