Ffair Adfywio Llandysul yn dod â dros 30 o fudiadau ynghŷd

Ffair_Adfywio_Llandysul_040419.jpg

Ar 4 Ebrill, daeth dros 30 o fudiadau lleol at ei gilydd a thros 100 o drigolion ynghyd yn Neuadd Tysul mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Ben Lake, AS Ceredigion a Llandysul Pont-Tyweli Ymlaen.

Nod ‘Ffair Adfywio Llandysul’ oedd dathlu a dysgu am yr ystod eang o sefydliadau, clybiau a chymdeithasau sy’n gweithredu yng nghymdogaethau ardal Llandysul, ac i fanteisio ar y cyfle i rannu arfer dda, rhannu syniadau a darganfod cyfleoedd i gydweithio’n well er lles y gymuned leol.

Cafwyd nifer o gyflwyniadau byrion a bywiog gan nifer o’r mudiadau yn ystod y noson, yn rhannu gwybodaeth am y gwaith maent yn ei wneud ac yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Treuliwyd gweddill y noson yn rhwydweithio, sgwrsio a chreu cysylltiadau.

Yn ogystal â grwpiau gwirfoddol lleol, megis Banc Bwyd Llandysul a Chymdeithas Hanes Llandysul, cefnogwyd y digwyddiad gan sefydliadau a chyrff allanol megis Cered, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys a chymdeithasau tai Tai Ceredigion a Tai Wales and West Housing.

Daeth y noson i ben gyda sesiwn holi ac ateb gyda Ben Lake, AS Ceredigion gyda chwestiynau o’r llawr ynghylch diffyg cysylltedd digidol; y bwlch a ddaw yn sgil colli mynediad at gronfeydd cyllid yr Undeb Ewropeaidd a phroblemau traffig a pharcio yn y dref.

Dywedodd Ben Lake:

Bu’r Ffair Adfywio yn ddigwyddiad eithriadol o lwyddiannus, ac rwy’n ddiolchgar iawn i bob mudiad a phob gwirfoddolwr am roi o’u hamser a’u hegni prin i gyfrannu at y digwyddiad. Mae’n anhygoel bod cynifer o gymdeithasau a mudiadau amrywiol yn bodoli mewn ardal wledig fel Llandysul – pob un ohonynt yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ardal.”

Cafodd y noson ei arwain a’i hwyluso gan y Cynghorydd Keith Evans. Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd:

Roedd yn bleser pur cael hwyluso a bod yn rhan o’r Ffair Adfywio a thrwy hyn, gweld y gymuned yn tynnu at ei gilydd a rhannu gwybodaeth am yr hyn sydd gan y mudiadau yn yr ardal i’w cynnig i’r trigolion lleol. Yn sicr ddigon, roedd y noson yn gam positif wrth fynd i’r afael ag adfywio’r dref.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.