Dylai ‘newid’ fod yn fwy na slogan – Plaid Cymru
Mae llefarydd y Trysorlys (Plaid Cymru), Ben Lake AS, wedi dweud bod pobl Cymru yn haeddu “gwrthdroi llymder” cyn Cyllideb Llywodraeth y Derynas Gyfunol.
Yn dilyn addewid etholiadol Llafur o ‘newid,’ mae Mr Lake yn rhybuddio y bydd unrhyw beth llai na diwygiadau sylweddol yn fethiant i ddiwallu anghenion Cymru.
Yn ogystal â’r £4 biliwn mewn cyllid rheilffyrdd, a fynnwyd gan Lafur yn flaenorol fel yr wrthblaid, mae Mr Lake yn galw am dreth o 2% ar gyfoeth dros £10 miliwn, gan ddadlau y gallai mesur o’r fath gynhyrchu £24 biliwn yn flynyddol i’r DU tra’n hyrwyddo tegwch cymdeithasol.
Pwysleisiodd bwysigrwydd grymuso Cymru i reoli ei hadnoddau ei hun, fel Ystad y Goron, i hybu twf lleol. Anogodd y Blaid Lafur i ddiogelu busnesau bach Cymru rhag y cynnydd arfaethedig mewn Yswiriant Gwladol, gan rybuddio y gallai danseilio eu rôl hanfodol yn economi Cymru.
Gydag awgrymiadau o gynnydd sylweddol mewn treth tanwydd, galwodd Mr Lake hefyd ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw pobl mewn ardaloedd gwledig heb drafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu cosbi mewn modd annheg.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS:
“Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu diffygion cyllidebol difrifol ac mae angen mynd i’r afael â nhw ar unwaith. Yn ogystal â hynny, mae saga HS2 yn parhau i amddifadu Cymru o hyd at £4 biliwn mewn cyllid rheilffyrdd – arian a allai drawsnewid ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd ymgyrch etholiadol y Blaid Lafur yn canolbwyntio ar addewid o newid, a hwythau bellach yn llywodraethu, mae'n rhaid iddynt gyflawni yr addewid hwnnw.
“Mae bwlch cyfoeth y DU ymhlith y mwyaf yn y byd datblygedig, felly mae’n hollbwysig bod y Llywodraeth yn creu cyfleoedd i bawb yn y Gyllideb hon. Byddai cynnydd ar dreth penodol, newidiadau sydd wedi'u hawgrymu yn yr wythnosau diwethaf, yn effeithio’n ar ardaloedd gwledig mewn modd annheg, gyda chynnydd yn y dreth ar danwydd yn cosbi cymunedau gwledig sydd wedi’u hamddifadu o system trafnidiaeth gyhoeddus weithredol, tra gallai cynnydd yn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr fygwth busnesau bach – asgwrn cefn ein heconomi. Mae amddiffyn y busnesau hyn yn hollbwysig, gan eu bod yn hybu twf a chyfleoedd lleol.
“Rhaid i’r Llywodraeth hefyd weithredu ar ei haddewidion i rymuso cymunedau lleol drwy roi'r adnoddau iddynt i lunio eu dyfodol economaidd eu hunain. Byddai modd gwneud hyn yn y Gyllideb hon drwy roi mwy o reolaeth i Gymru dros ei hadnoddau, gan gynnwys Ystad y Goron, yn ogystal â sicrhau bod penderfyniadau ar gyfleoedd fel y 'Shared Prosperity Fund' yn y dyfodol yn cael eu gwneud yng Nghymru.
“Fel yr wrthblaid, cefnogodd y Blaid Lafur alwadau Plaid Cymru am y £4 biliwn sy’n ddyledus i Gymru mewn cronfeydd rheilffyrdd. Ni allant ddiystyru'r alwad hon nawr eu bod mewn llywodraeth. Y Gyllideb hon yw eu cyfle i brofi bod ‘newid’ yn fwy na slogan yn unig.”
Dangos 1 ymateb