Angen sicrhau bod holl wledydd y Deyrnas Unedig yn rhan o benderfyniadau cyllido amaeth

Ffermio.jpg

Mae AS Ceredigion a Llefarydd DEFRA Plaid Cymru, Ben Lake, wedi galw am am system newydd i sicrhau llais i Gymru yn y modd y caiff ffermydd eu hariannu ar ôl Brexit. Fe wnaeth yr alwad yn ystod Ail Ddarlleniad Bil Amaeth San Steffan.

Er gwaetha’r ffaith mai Llywodraeth Cymru sy’n bennaf gyfrifol am y polisi amaeth, mae mwyafrif y penderfyniadau ynghylch cyllid ar gyfer taliadau i ffermwyr yn cael eu gwneud yn San Steffan. Galwodd Mr Lake ar i holl lywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig gael rôl yn y broses o benderfynu ar drefniadau taliadau i ffermwyr yn y dyfodol.

Cafodd y Bil ei feirniadau am dynnu pwerau datganoledig oddi ar Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd gan ganoli’r pwerau i gyd yn San Steffan.

Er gwaetha’r ffaith bod gwrthwynebiad yn Nhŷ’r Cyffredin, pasiodd y Bil Amaeth ei Ail Ddarlleniad yr wythnos ddiwethaf.

Ar ôl i’r Bil gael ei basio, dywedodd Ben Lake AS:

"Ni ellir diystyried pwysigrwydd amaethyddiaeth yn mywyd beunyddiol cymunedau cefn gwlad Cymru. Serch hynny, mae Gweinidogion yn parhau i anwybyddu pryderon ffermwyr Cymru sydd wedi cael eu dal rhwng Llywodraeth di-glem yng Nghaerdydd a Llywodraeth anwybodus yn San Steffan.

"Pan mae’n dod i ddyfodol y clidd ar gyfer taliadau i ffermwyr nid oes gennym syniad o’r proses fydd yn ei lle a pha rôl fydd gan y llywodraethau datganoledig, a sut bydd dadleuon yn cael eu datrys.

"Mae datganoli yn arwain at wahaniaeth barn ac mae gwahanol anghenion yn arwain at bolisiau gwahanol. Gwyddom eisoes y gallai’r trefniadau ar gyfer taliadau uniongyrchol yn unig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon fod yn sylweddol wahanol i’r trefniadau ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’n amlwg bod angen system i sicrhau bod problemau a gwiriadau yn y farchnad yn cael eu datrys. Mae’n siomedig bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn gwrthod cydnabod hynny.

"Dylai pob cenedl benderfynu ar eu polisi amaeth eu hunain, ond gallai corff rhynglywodraethol fynd i’r afael ag unrhyw broblemau sy’n achosi anghydbwysedd yn y farchnad neu sy’n rhoi un genedl dan fwy o anfantais na’r llall. Nid yw’r strwythurau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn addas at eu diben o gwbl."

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.