Mae ASau Plaid Cymru yn galw ar Ganghellor y Trysorlys i droi cynnydd dros dro mewn Credyd Cynhwysol yn un parhaol, er mwyn helpu i amddiffyn y rhai sydd mewn perygl o wynebu caledi pellach o ganlyniad i bendefig Covid-19.
Mae Ben Lake AS eisiau i Drysorlys y DU ymestyn y codiad Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gweithio o £20 yr wythnos, a gyflwynwyd ar ddechrau’r pandemig. Dengys ffigurau’r Adran Gwaith a Phensiynau gynnydd sylweddol yn nifer yr hawlwyr Credyd Cynhwysol yng Ngheredigion ers mis Mawrth 2020.
Ni ymrwymodd y Canghellor i ymestyn y budd-dal lles yma yn ystod ei adolygiad gwariant diweddaraf.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae effaith Covid-19 ar gymdeithas wedi bod yn sylweddol, ac mae’r canlyniadau economaidd lleol wedi arwain at lawer mwy o bobl yn dibynnu ar Gredyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gweithio i’w cynnal hwy a’u teuluoedd drwy’r pandemig.
“Croesawyd y penderfyniad y llynedd i gynyddu’r lwfans safonol o £20 yr wythnos yn fawr, ac wrth i Covid-19 barhau i achosi aflonyddwch difrifol i fywydau pobl, dylai Llywodraeth y DU wneud y codiad hwn yn barhaol, fel nad oes angen i deuluoedd ledled y sir dioddef cwymp sydyn mewn incwm ar ddiwedd mis Mawrth.
“Mae'n hanfodol felly bod y codiad Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth yn cael eu hymestyn gan y bydd canlyniadau economaidd Covid-19 yn parhau i gael eu teimlo am gryn amser eto. Byddai cynnal y codiad o £20 yr wythnos yn cynnig achubiaeth i deuluoedd sy'n ceisio adfer eu sefyllfa ariannol, ac yn helpu atal llawer rhag mynd i bwll dyled. ”
Dangos 1 ymateb