Ben Lake AS yn annog y Canghellor i estyn cefnogaeth ariannol i fusnesau na allant ailagor yn ddiogel

mike-petrucci-c9FQyqIECds-unsplash.jpg

Gyda llawer o siopau a busnesau manwerthu yn ailagor eu drysau i gwsmeriaid ledled Cymru'r wythnos hon, i nifer sylweddol o fusnesau yng Ngheredigion ni fydd ailagor yn opsiwn ymarferol, ac mae’n bosibl y bydd rhai sectorau yn parhau ar gau hyd y gellir rhagweld.

Mae AS Ben Lake wedi croesawu cyhoeddi cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer ailagor ystod ehangach o siopau o’r wythnos hon ymlaen. Dywedodd: "Diogelwch yw'r pryder sylfaenol i bob manwerthwr ac rwy'n ymwybodol bod llawer o siopau lleol wedi gweithio'n galed yn ystod yr wythnosau diwethaf i weithredu mesurau a fydd yn eu galluogi i weithredu'n ddiogel."

 

Fodd bynnag, i rai sectorau a busnesau, mae ailagor a glynu wrth fesurau pellhau cymdeithasol naill ai'n amhosibl neu’n golygu na fyddai’r busnes yn talu ffordd yn ariannol, ac yn y Senedd yr wythnos diwethaf, anogodd Ben Lake AS Lywodraeth y DU i estyn cefnogaeth ariannol i'r busnesau hynny.

Mewn ymateb, nododd y Gweinidog y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gadw pob mesur i gefnogi unigolion a busnesau “dan adolygiad cyson”. 

Mae AS Ben Lake hefyd wedi gofyn i Lywodraeth y DU fod yn barod i arfer “hyblygrwydd” mewn perthynas â’i Chynllun Cadw Swyddi, a chaniatáu mynediad parhaus i fusnesau a fydd naill ai’n gorfod aros ar gau, neu weithredu ar gapasiti llai, oherwydd cyfyngiadau.

Dywedodd Mr Lake:

“Er y bydd rhai busnesau wedi croesawu cwsmeriaid yn ôl yr wythnos hon, mae llawer o fusnesau yn parhau i fod yn hynod bryderus am eu dyfodol. Ar gyfer y sectorau hynny na allant ailagor oherwydd cyfyngiadau cyfredol, neu i fusnesau na allant ailagor yn ddiogel yn unol â chanllawiau pellhau cymdeithasol, mae'n hanfodol bod cefnogaeth ariannol ar gael iddynt. 

“Ni ddylid cosbi busnesau am wneud y peth iawn yn hyn o beth, a gallai Canghellor y DU eu helpu trwy sicrhau eu bod yn parhau i gael mynediad at gynlluniau cymorth fel y cynllun ffyrlo. 

“Rwy’n ofni oni bai bod y cynllun i ddileu’r Cynllun Cadw Swyddi yn raddol yn cael ei ddiwygio i ystyried y gwahanol heriau y mae busnesau mewn gwahanol sectorau ac ardaloedd yn eu hwynebu, mae risg wirioneddol y bydd yr holl waith caled – a’r gost - i arbed llawer o swyddi yn ystod y pandemig hwn wedi bod yn ofer.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.