Mae Elin Jones AC yn galw am osod mannau gwefru cerbydau trydan ymhob un o feysydd parcio Cyngor Sir Ceredigion ac archfarchnadoedd drwy’r sir.
Fe wnaeth Elin ddwyn sylw Llywodraeth Cymru am yr angen am fwy o fannau gwefru a chael ar ddeall bod Awdurdodau Lleol yn cael eu hannog i roi cais am ran o £29m o gyllid ychwanegol er mwyn cefnogi defnydd o gerbydau trydan yng Nghymru. Mae’r AC yn galw hefyd ar archfarchnadoedd sy’n berchen ar nifer o feysydd parcio enfawr i ystyried mannau gwefru cerbydau trydan.
Dywedodd Elin Jones AC,
“Rwy’n croesawu'r cyllid ychwanegol ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan. Un o’r prif resymau paham nad ydym yn gweld defnydd helaeth ohonynt yng Ngheredigion yw’r diffyg mewn mannau gwefru trydan ledled yr etholaeth.
“Dyna pam rwy’ wedi gofyn ar i Gyngor Sir Ceredigion ystyried gwneud cais am y cyllid sydd ar gael drwy’r Gronfa Drafnidiaeth Leol. Mae yna nifer o feysydd parcio cyhoeddus mewn trefi a phentrefi ledled Ceredigion a ellid eu defnyddio ar gyfer y pwrpas hwn.
“Hefyd mae yna gyfle i archfarchnadoedd Ceredigion i osod mannau gwefru yn eu meysydd parcio hwy, a byddaf yn ysgrifennu at bob un yng Ngheredigion i ganfod eu cynlluniau ar gyfer gwefru cerbydau trydan.
“Pe bai mwy o fannau gwefru ar gael, rwy’n siŵr y byddai pobl yn fwy hyderus i ddefnyddio cerbydau trydan.”