Cefndir
- Yn byw ac yn ffermio ar Fferm Tanygraig, Silian gyda'i theulu
- Cadeirydd Cyngor Cymuned Llangybi
- Cadeirydd Menter Silian
Pam pleidleisio dros Eryl?
"Rwy’n byw ym mhentref Silian ers 30 mlynedd bellach ac mae fy ngwreiddiau a’m diddordebau yn ddwfn yn yr ardal a chefn gwlad. Mi fyddai’n bleser cynrychioli trigolion y pentrefi lleol yn yr ardal hynod brydferth yma ar Gyngor Sir Ceredigion.
Rwy’n berson penderfynol, gonest a theg, ac rwy’n barod i weithio’n ddiwyd dros y pentrefi cyfagos yn y gymuned.
“Mae pethe wedi altro’” – dyma’r frawddeg rwy’n clywed ar wefusau llawer ohonoch dro ar ôl tro. Fy mwriad wrth geisio ymweld â phob cartref cyn yr etholiad yw holi eich barn ynglyn â hyn, a gwrando ar beth sydd gennych i ddweud am faterion lleol a deall beth sy’n bwysig i chi.
Hoffem weld ein cymunedau’n siapo eu dyfodol eu hunain, ac i gyd-wethio gyda chi i wireddu syniadau newydd a fydd yn gwella’r ardal leol a’r gymdeithas.
Gofynnaf am eich cefnogaeth ar 5 Mai."
Blaenoriaethau Eryl
- Gwella a datblygu cyfleoedd i fusnesau bach annibynnol er mwyn cryfhau'r economi leol.
- Annog a chefnogi unrhyw un sydd eisiau ymwneud â materion y cyngor i gael eu clywed a’u cynrychioli.
- Lleihau ein hôl troed carbon trwy sicrhau bod caffaeliad bwyd y sector gyhoeddus yn lleol, yn dymhorol ac yn dod o ffynonellau cynaliadwy.
- Ymgyrchu i sicrhau tai a chartrefi fforddiadwy i bobl lleol yn eu milltir sgwâr.
- Gwella'r gwasanaethau a'r adnoddau i'r henoed a'r bregus yn ein cymdeithas.
- Cefnogi mynediad pobl at weithgareddau awyr agored.
Manylion cyswllt |
[email protected] |
07977 700083 |
Dangos 1 ymateb