Clywodd Ben Lake AS gan ei etholwyr, a oedd ymhlith tua 12,000 o bobl, oedd yn lobïo eu Haelodau Seneddol am weithredu brys ar yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd.
Yn y lobi amgylcheddol seneddol mwyaf erioed, cafodd pobl o bob cwr o'r DU eu cynrychioli, gydag o leiaf 300 AS yn dod allan i gwrdd â'u hetholwyr. Cyfarfu AS Ceredigion ag etholwyr yn yr ardal o amgylch Palas San Steffan. Am 14:00 gosododd y lobïwyr larymau ffôn a chlociau larwm i ganu i symboleiddio ‘maen amser gweithredu nawr’.
Anogwyd Ben Lake AS gan ei etholwyr i basio cyfreithiau uchelgeisiol newydd sy'n creu amgylchedd iachach i bobl a bywyd gwyllt, ac i gefnogi mesurau sy'n dod â chyfraniad y DU i newid hinsawdd i ben erbyn 2045.
Trefnwyd y lobi 'The Time is Now' gan The Climate Coalition a Greener UK, dau gorff sy'n cyfuno dros 130 o sefydliadau ac yn cynrychioli dros 15 miliwn o bobl - yn amrywio o asiantaethau cymorth CAFOD, Cymorth Cristnogol ac Islamic Relief i grwpiau cymunedol gan gynnwys Sefydliad y Merched a sefydliadau amgylcheddol fel WWF, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyfeillion y Ddaear. Mae'n dilyn protestiadau amgylcheddol byd-eang, a datganiad argyfwng gan senedd y DU am yr hinsawdd a'r amgylchedd.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Roedd yn wych cyfarfod â'm hetholwyr yn y lobi dorfol fwyaf erioed ar yr hinsawdd, natur a phobl. Clywais eu barn a chytunaf yn llwyr â hwy - Maen Amser Gweithredu Nawr er mwyn creu byd glanach ac iachach.
“Mae'n amlwg bod yr argyfwng hinsawdd ac amgylcheddol yn fater prif ffrwd sy'n annwyl i lawer o'm hetholwyr, ac i bobl ledled Cymru. Byddaf yn gweithio i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn San Steffan ar yr adeg hollbwysig yma i’r hinsawdd, natur a phobl. ”
Dywedodd Shaun Spiers, Cadeirydd Greener UK:
“Mae'r ystod eang o bobl a sefydliadau sy'n cefnogi'r lobi yn cyfleu’r teimlad sydd ar draws y wlad bod angen gweithredu ar frys, gan ddechrau gyda bil amgylcheddol uchelgeisiol a pholisïau sy'n ein rhoi ar y trywydd iawn ar gyfer dim allyriadau net erbyn 2045. Maen amser gweithredu nawr. ”
Dywedodd Tanya Steele, Prif Weithredwr WWF:
“Mae pryder y cyhoedd am yr amgylchedd ar ei uchaf erioed, ac am reswm da. Rydym yn dinistrio'r blaned, ac yn peryglu goroesiad pobl a bywyd gwyllt. Mae'n rhaid i'n harweinwyr wneud penderfyniadau beiddgar yn awr ac ymrwymo i fuddsoddi mewn technoleg a pholisïau sy'n cyflymu gostyngiadau mewn allyriadau ac yn gosod natur ar y llwybr i adferiad. ”
Dywedodd Hilary McGrady, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol:
“Mae'n galonogol iawn gweld cymaint o bobl yma heddiw, yn sefyll gyda'i gilydd dros natur. Rwyf wedi gweld effaith uniongyrchol dirywiad natur a hinsawdd sy'n newid ein caeau a'n coedwigoedd, treftadaeth adeiledig a thraethau - o leihau rhywogaethau o fywyd gwyllt i dywydd anghyffredin sy'n niweidio ein heiddo hanesyddol. Rydym yn gweithio'n galed i adfer natur a dod o hyd i ffyrdd o addasu ond rydym yn wynebu heriau cynyddol anodd.
Nid oes rhaid i’r sefyllfa fod fel hyn. Gallwn ni fod y genhedlaeth gyntaf i adael ein moroedd yn lanach, ein dinasoedd yn llai llygredig a mannau gwyllt yn iachach na’r hyn a adawyd i ni. Ond i wneud hynny, mae angen i'r llywodraeth gymryd camau brys.”