Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu gohirio Mesur yr Amgylchedd ar ôl iddo gael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn ddoe, 26 Ionawr.
Mae Mesur yr Amgylchedd yn gosod targedau gorfodol hir dymor ar gyfer gwella byd naturiol y DU. Trafodwyd gwelliannau i’r ddeddfwriaeth arfaethedig gan ASau ddoe, ond ni fydd y Bil yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin tan y sesiwn Seneddol nesaf.
Mae ASau ac ymgyrchwyr wedi dadlau y bydd yr oedi yn ei gwneud yn anoddach i Lywodraeth y DU gyrraedd targedau i wella ansawdd dŵr, lleihau gwastraff a gwarchod bywyd gwyllt. Bydd yr oedi hefyd yn efffeithio ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu rhaglenni sy’n cynnwys mesurau i liniaru’r newid yn yr hinsawdd.
Yn ystod ei gyfraniad i’r ddadl ddoe, nododd Ben Lake AS dros Ceredigion ei fod yn “siomedig bod y Llywodraeth wedi methu â gwneud cynnydd sylweddol gyda’r Bil hwn, yn enwedig o ystyried y brys i weithredu er mwyn delio nid yn unig ag achosion newid yn yr hinsawdd ond colli bioamrywiaeth. ”
Mae Bil yr Amgylchedd yn cynnwys mesurau i sicrhau nad yw defnyddwyr yn y DU bellach yn cyfrannu at ddinistrio rhychwantau helaeth o dir coediog dramor, trwy reolau newydd gyda'r bwriad o atal mewnforio nwyddau i'r DU o ardaloedd sydd wedi'i ddatgoedwigo yn anghyfreithlon.
Mae’r WWF wedi rhybuddio ein bod yn colli coedwigoedd hanfodol ac ecosystemau naturiol eraill o bwys mawr ar raddfa frawychus. Dangosodd ffigurau swyddogol Brasil a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020 gynnydd o 9.5% mewn datgoedwigo yn yr Amazon flwyddyn ar ôl blwyddyn. Collwyd ardal hanner maint Cymru o Amazon Brasil mewn blwyddyn yn unig, y ffigwr datgoedwigo uchaf ers 2008.
Yn dilyn y drafodaeth, dywedodd Ben Lake AS:
“Mae'r rhan fwyaf o bobl yn poeni am yr amgylchedd, ac yn awyddus i wneud eu rhan i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, yn aml ni werthfawrogir y gall y dewisiadau a wnawn yma yng Nghymru gyfrannu at arferion rheoli tir a thynnu oddi ar adnoddau dramor. Boed hynny'r datgoedwigo ym Mecsico a yrrir gan gynhyrchu afocado anghynaladwy, neu dorri darnau helaeth o goedwig law'r Amazon i luosogi ffermydd ransh a ffermydd soia anghyfreithlon.
“Mae gennym gyfrifoldeb i chwarae ein rhan i atal gyrwyr datgoedwigo coedwigoedd glaw dramor, a bydd gwneud hynny yn hanfodol os ydym am osgoi codiadau tymheredd trychinebus byd-eang a cholli bioamrywiaeth yn y dyfodol agos. O'r herwydd, mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno mesurau i gefnogi'r trawsnewid oddi wrth y cadwyni cyflenwi sy'n cyfrannu at ddatgoedwigo, ac yn benodol cyflwyno mesurau sy'n annog peidio masnachu nwyddau sydd wedi cyfrannu at ddatgoedwigo dramor.
“Mae’n ddyletswydd arnom i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein byd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mewn blwyddyn mor bwysig ar gyfer lliniaru ac addasu newid yn yr hinsawdd, rwy’n gobeithio bydd Llywodraeth y DU yn gwneud ymdrech ystyrlon i gael y Bil i'r llyfr statud cyn gynted â phosibl yn y sesiwn seneddol nesaf."
Dangos 1 ymateb