AS Plaid Cymru dros Geredigion yn cefnogi galwadau ar Lywodraeth y DU i find i'r afael â'r argyfwng ynni

julian-hochgesang-ihx1LdtnGXw-unsplash_(1).jpg

Mae Ben Lake AS, Cyd-gadeirydd yr APPG ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, wedi llofnodi llythyr trawsbleidiol at Lywodraeth y DU yn galw am amrywiaeth o fesurau cymorth ariannol i helpu ymdrin â'r argyfwng ynni presennol.

Yn dilyn y cynnydd mwyaf erioed ym mis Hydref 2021 i'r cap ar brisiau, bydd biliau ynni'n cynyddu’n sylweddol eto ledled y DU ym mis Ebrill, a gallent gyrraedd mor uchel â £2,000 ar gyfer yr aelwyd gyfartalog, cynnydd o £700 o'i gymharu â phrisiau heddiw. Mae arbenigwyr hefyd wedi dweud bod y prisiau hyn yn debygol o gael eu cynnal am ddwy flynedd neu fwy.

Mae arolwg a gynhaliwyd gan YouGov wedi dangos bod 6 o bob 10 aelwyd ym Mhrydain yn dweud y byddent yn lleihau eu defnydd o wres o dipyn/yn sylweddol pe bai cost gwresogi'n dyblu.

Dywedodd Ben Lake AS: "Bydd y codiad yn drychineb i'r rhai oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau a gallai olygu bydd dros 6 miliwn o aelwydydd mewn tlodi tanwydd ar draws y DU. Bydd y cynnydd hwn mewn prisiau yn effeithio ar bob aelwyd. Ond i'r rhai a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau, bydd yn drychinebus. Heb unrhyw gymorth ychwanegol, bydd miliynau'n suddo ymhellach i ddyled, a bydd llawer yn diffodd y gwres, gan eu rhoi mewn perygl enbyd o afiechyd difrifol a bydd yn rhoi mwy o straen ar ein gwasanaethau iechyd sydd eisoes dan bwysau dirfawr."

Mae'r llythyr trawsbleidiol yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw becyn cymorth i ddelio â'r argyfwng yn gweithio er lles aelwydydd sy’n dioddef o dlodi tanwydd, er enghraifft, drwy gynyddu'r cymorth sydd ar gael drwy gynlluniau sy'n bodoli eisoes megis y cynllun cymorth tanwydd gaeaf yng Nghymru neu ad-daliad ychwanegol a dargedir y gellid ei ddarparu'r gaeaf hwn.

Mae'r llythyr hefyd yn ychwanegu "na ddylai unrhyw ymdrech i leihau biliau ynni gynnwys cael gwared ar ardollau gwyrdd."

Ychwanegodd Ben Lake AS: "Er y gellid dadlau a ddylai ardollau gwyrdd aros ar filiau ynni neu gael eu hychwanegu yn lle treth incwm, nid oes cyfiawnhad dros eu dileu'n llwyr. Byddai gwneud hynny'n dwysáu'r argyfwng nwy a wynebwn drwy waethygu tlodi tanwydd ac oedi ymhellach yn y newid i ffwrdd o danwydd ffosil.

"Byddaf yn parhau i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr i sicrhau bod yr aelwydydd mwyaf bregus yn cael eu diogelu cyn belled ag y bo modd rhag y bygythiad presennol o filiau ynni domestig sylweddol uwch."


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2022-01-26 17:14:41 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.